Yr Arboretum
O gyrraedd y Parc drwy unrhyw un o’r pedair mynedfa, rydych chi’n siŵr o sylwi ar ein coed rhyfeddol, llawer ohonyn nhw wedi bod yn tyfu’n dawel yma dros gannoedd o flynyddoedd.
Ond nid ein coetir hynafol lled-naturiol ddynodedig sy’n gartref i unigolion harddaf y safle. Yn yr Ardd Goed, yn union i’r de a’r dwyrain o’r amgueddfa, mae ein planhigfeydd mwy egsotig, a chan bob un ddigon o le i gyrraedd eu llawn botensial.
Byddai’r Esgob Jenkinson, sydd wedi rhoi ei enw i’n Gardd Jenkinson, wedi etifeddu rhai o’r coed yma gan ei ragflaenwyr, yn enwedig yr Esgob Arglwydd George Murray y credwn ei fod yn gyfrifol am nifer o’r planhigfeydd ledled y safle rhwng 1801 ac 1803. Ymysg rhain mae tair derwen fythwyrdd, un ohonyn nhw’n cysgodi’r fynedfa i’r Ardd Furiog, un arall yn ymestyn yn ddioglyd dros Bwll yr Esgob o’r Ha-ha, gan oglais y dŵr pan fydd lefel y dŵr yn uchel.
Mae rhai, serch hynny, hyd yn oed yn rhagflaenu Murray; mae’n debygol fod ein dwy goeden bocs, un o’r coed brodorol Prydeinig mwyaf araf ei thyfiant, wedi eu plannu fel topiari yn ystod y 18fed Ganrif – a dyna ddysgu pawb beth all ddigwydd o fethu â thorri eich coed! Mae’n debygol fod Cedrwydden Lebanon hefyd wedi’i phlannu tua diwedd y 18fed Ganrif, ac o bosibl casgliad o goed sydd wedi eu clystyru ynghyd i ffurfio un goron, ac sydd bellach wedi hen ymdoddi i’w gilydd.
Dengys eraill hefyd yn glir pa mor flaengar o safbwynt cyflwyno arloesedd garddwriaethol oedd yr Esgobion.
Mae’n bosib fod ein tair planwydden Llundain – un ohonyn nhw’n sefyll yn falch fel canolbwynt i’r ardd ffurfiol – ymysg y cyntaf o’r rhywogaeth hybrid hon i gael eu plannu yng Nghymru, dros 150 mlynedd yn ôl.
I’r gwrthwyneb, dim ond yn sgil y cofnodion ffosil y cafodd cochwydd collddail Tsieina eu hadnabod nes cael eu darganfod yn China yn y 1940au. Mae un o’r rhai sydd yma’n dal record Sir Gaerfyrddin yn sgil ei thaldra o 27m. Mae’n bosib i’n rhai ni gael eu plannu yn ystod y 1960au gan un o’r Esgobion olaf i fyw yn yr Hen Balas.
Ond nid hanes yn unig sy’n cael ei reoli a’i ddathlu yn y Parc. Mae plannu newydd yn digwydd os oes lle i wneud hynny, er mwyn sicrhau olyniaeth i’n coed mwyaf eiconig (megis pinwydd Chile, sydd dan fygythiad yn y gwyllt), ac er mwyn cyflwyno’n ofalus rywogaethau newydd sy’n gweddu’n fwyaf addas i’n cynlluniau adferol ac ecolegol.
Felly, treuliwch ychydig amser er mwyn gweld drwy’r ffenestri anhygoel yma i’r gorffennol ac ymlaen i’r dyfodol, yn heddwch a thangnefedd ein Gardd Goed brydferth.