enquiries@tywigateway.org.uk Parc a Gerddi yr Esgob, Abergwili, Sir Caerfyrddin SA31 2JG

Gwirfoddoli

Oes gennych chi ddiddordeb mewn hanes, gerddi, addysg neu ddigwyddiadau? Hoffech chi gwrdd â phobl newydd a dysgu sgiliau newydd gan weithio mewn parc a gardd brydferth a rhyfeddol?

Mae gwirfoddolwyr yn ganolog i’n gwaith ni ym Mharc yr Esgob. Os oes gennych chi ychydig amser rhydd i’w roi, buasem wrth ein bodd yn eich croesawu.

Mae angen cymorth arnom ni gyda phob agwedd o redeg y Parc – garddio, bywyd gwyllt, hanes, teithiau tywys, addysg, digwyddiadau, croesawu ymwelwyr, codi arian, gweinyddu, marchnata – a mwy! Os oes gennych amser i’w sbario, byddem wrth ein boddau’n eich croesawu fel gwirfoddolwr.

Cofiwch gysylltu!

Prif Arddwr – Blue Barnes Thomas – bluebarnesthomas@tywigateway.org 

Swyddog Ymgysylltu Cymunedol a Dysgu -Sarah Dobson -sarahdobson@tywigateway.org.uk