Swyddi Gwag – 3 x Lleoliad Hyfforddiant Garddwriaethol â Thâl
14/07/2026
By Admin2
14-16 awr yr wythnos am 16 wythnos (oriau hyblyg trwy gytundeb) £177.94-£203.36 yr wythnos Manylion: 260707.Cym.HorticulturalTraineesRD.PyE2 Anfonwch e-bost at teresawalters@tywigateway.org.uk erbyn dydd Mercher 19eg Awst, yn esbonio pam yr hoffech weithio gyda ni a sut mae eich profiad a’ch diddordebau’n cyd-fynd â’r rhinweddau a amlinellir yn y Manyleb Person, gan roi rhai enghreifftiau. Cynhelir cyfweliadau ar y 9fed …
















Straeon Gwirfoddolwyr – Huw Peregrine
Posted: 26/05/2026 by Anne
Gwirfoddolwr garddio, cofnodi natur a gwylio adar.
“Dechreuais wirfoddoli ym Mharc yr Esgob ym mis Ebrill 2022.
“Yr wyf fi yn byw yn y pentref cyfagos i’r Parc ac wedi cerdded yno sawl tro dros y degawdau.
“Fi’n mwynhau cwrdd â fy nghyd-weithwyr/gwirfoddolwyr a chydweithio gyda nhw. Mae’r gwaith yn gorfforol ac yn helpu i gadw fi’n heini. Hefyd, y mae yn fy ngwneud i symud mâs o’r tŷ.
“Ymddeolais o waith llawn amser yn Ysbyty Glangwili dros bum mlynedd a hanner yn ôl. Ers ‘ny, dechreuais wirfoddoli yn ardd Newton House, eiddo Ymddiriedolaeth Genedlaethol Dinefwr ger Llandeilo, yn berllan pentref Abergwili a chloddio archeoleg gyda Heneb (swydd Dyfed).
“Yn ychwanegol i’r uchod, ‘rwy’n hoff o gerdded bryniau a mynyddoedd a gwylio adar yn gyffredinol.”
Category: Newyddion Diweddaraf