Garddwriaeth
Mae garddwriaeth yn elfen allweddol o’n treftadaeth yma ym Mharc yr Esgob, ac yn rhan fawr o’r gwaith adfer parhaus. Drwy ddatgelu gorffennol garddwriaethol y safle, ein bwriad yw deall sut y gall dulliau a thechnegau hanesyddol y gorffennol gael eu defnyddio i lywio dyfodol mwy cynaliadwy, ar gyfer pobl a bywyd gwyllt sy’n rhannu’r lle unigryw ac arbennig yma.
cynllun newydd yr Esgob JOHN JENKINSON
Roedd y cyfnod rhwng 1825 a 1840 yn gyfnod o newid mawr ym Mharc yr Esgob. Yr Esgob John Jenkinson oedd yn byw yn y Palas ar y pryd ac roedd ganddo ddiddordeb mawr yn y gerddi a’u datblygiad, wedi’i ysbrydoli gan arddull arddwriaethol tirwedd John Claudius Laudon. Wrth ailgynllunio’r safle, gwnaeth ymdrech ymwybodol i gyfuno rhai o’r elfennau mwy urddasol anffurfiol, a etifeddwyd gan yr Esgob Arglwydd George Murry, gyda rhai mwy amlwg ffurfiol. Amlinelliad prin o’r cynllun newydd yma a etifeddwyd yn ei dro gan Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn yn 2018, gyda’r bwriad o’i adfer i’w ogoniant blaenorol.
Ond er bod ein gwaith adfer yn canolbwyntio ar ail-greu rhai o nodweddion penodol yr ardd a’r dirwedd a grëwyd gan yr Esgob John Jenkinson yn yr 1830au, mae llinach arddwriaethol y safle’n mynd nôl yn gynharach fyth, gan i’r gerddi newid tipyn dros y canrifoedd. Gwelwyd darganfyddiadau a thrawsnewidiadau garddwriaethol newydd a chyffrous yn sgil y newidiadau hynny.
O’r tai gwydr Fictoraidd yn yr Ardd Furiog, i’r Ha-ha, a’r llu o goed urddasol ledled y Parc, roedd trigolion y safle’n aml ar flaen y gad o safbwynt dylunio ac arloesi ym maes gerddi a thirwedd.
Felly, gan geisio bod mor driw â phosibl wrth ail-greu’r gerddi’n rhywbeth y byddai’r Esgob Jenkinson yn eu hadnabod, rydyn ni hefyd yn ceisio parhau â’r ysbryd arloesol a fyddai wedi’i yrru – fel nifer o’r Esgobion eraill a fu’n byw yma – wrth greu eu hystâd hardd.
ADNEWYDDU A gwarchod
Gall y Parc nawr ymhyfrydu mewn nifer o ardaloedd di-stŵr, pob un â’i phriodweddau garddwriaethol arbennig a chymaint i gynnig i ymwelwyr. Cynlluniwyd Gardd Jenkinson ar lun gardd ffurfiol yr Esgob Jenkinson a adeiladwyd yno cynt, gyda rhosod, blodau lluosfwydd, perlysiau a chloddiau ochr yn ochr â’i gilydd. Mae’r Ardd Goetir, man hamddenol i oedi i fwynhau golygfyedd o Ddyffryn Towy, yn cynnwys coed a llwyni brodorol a hanesyddol. A bydd yr Ardd Furiog, sy’n adfywio’n raddol wedi blynyddoedd lawer o esgeulustod, un diwrnod yn chwarae rôl ganolog o safbwynt cynaliadwyedd Parc yr Esgob, gan ddarparu cynnyrch ar gyfer y caffi a lleoliad ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau addysgol.
Mae’r stori’n parhau …
Mae’r holl ardaloedd yma’n adrodd hanes Parc yr Esgob yn eu ffyrdd eu huain, ond mae’r stori’n dal i barhau. Ar adeg pan mae cynaliadwyedd a gweithio gyda natur yn flaenoriaethau pwysig, mae garddwriaeth ym Mharc yr Esgob mewn sefyllfa berffaith i roi lle canolog i’r rhain.
Cyn belled ag y bo modd, rydyn ni’n garddio’n organig, gan ddefnyddio nerth bôn braich i reoli chwyn, ac annog cydbwysedd byd natur drwy ddarparu cynefin hanfodol ac adnoddau bwyd ar gyfer amrywiaeth o fflora a ffawna.
Dros amser, ein bwriad hefyd yw cynnig cyrsiau mewn dulliau garddio sylfaenol y gall pobl eu mabwysiadau a’u defnyddio yn eu gerddi eu hunain.
Yn bwysicaf oll, bwriad gerddi Parc yr Esgob yw cynnig amgylchedd hardd, ymlaciol ac ysgogol i bobl allu dysgu am ein hanes byw a chael mynd yn agosach at amrywiaeth arbennig o fywyd gwyllt ar garreg eu drws yn Sir Gaerfyrddin.