enquiries@tywigateway.org.uk Parc a Gerddi yr Esgob, Abergwili, Sir Caerfyrddin SA31 2JG

Darganfod Dyffryn Tywi

Fel un o’r afonydd hwyaf sy’n llifo yng Nghymru’n unig, mae afon Tywi’n gwneud ei ffordd trwy Sir Gaerfyrddin o’r gogledd gan fwrw tuag at gyfeiriad y de-orllewin i’r môr. Mae’n ymdroelli trwy dirwedd glas hyfryd o fryniau coediog tonnog a ffermdir sy’n gyfoethog mewn hanes a bywyd gwyllt.

EPSON MFP image

P’un a ydych chi eisiau crwydro trwy goedwigoedd heddychlon neu ymlacio ar draethau trawiadol, archwilio tai a gerddi gwych, siopa am gelf a chrefft benigamp neu ddringo i gopa castell a bryngaerau anghysbell, mae gan ddyffryn Tywi rywbeth at eich dant. Neu os oes well gennych chi rywbeth mwy anturus, gall ddarparu hynny hefyd.

Grongar Hill Henru Gastineau

Teithiau Cerdded  Cylchol Dyffryn Tywi

Rydym wedi datblygu 4 taith gerdded o’r Parc – Taith Gerdded Afon Gwili a’r Rheilffordd (3¼ milltir/5¼ km), Taith Gerdded Felinwen a Bryn Myrddin (4 milltir/6.5km), Abergwili i’r dre a Taith Gerdded Pentref Abergwili

Rhowch dro arnynt a dewch nôl i’n caffi i dorri syched a gorffwyso!