Swyddi Gwag – 3 x Lleoliad Hyfforddiant Garddwriaethol â Thâl
14/07/2026
By Admin2
14-16 awr yr wythnos am 16 wythnos (oriau hyblyg trwy gytundeb) £177.94-£203.36 yr wythnos Manylion: 260707.Cym.HorticulturalTraineesRD.PyE2 Anfonwch e-bost at teresawalters@tywigateway.org.uk erbyn dydd Mercher 19eg Awst, yn esbonio pam yr hoffech weithio gyda ni a sut mae eich profiad a’ch diddordebau’n cyd-fynd â’r rhinweddau a amlinellir yn y Manyleb Person, gan roi rhai enghreifftiau. Cynhelir cyfweliadau ar y 9fed …
















Straeon Gwirfoddolwyr – Julie Foreman
Posted: 10/06/2026 by Anne
Gwirfoddolwr garddio
“Rwy’n gwirfoddoli yn y parc ers ymuno â chwrs garddio ‘Maethiant Natur’ ym mis Mehefin 2025
“Rwy’n byw yn Abergwili a gwelais y ‘Maethiant Natur’ ar yr hysbysfwrdd. Dydw i erioed wedi gweld fy hun fel garddwr ond roeddwn i’n meddwl y byddai’n fuddiol iawn i’m gŵr sydd wedi cael anaf i’w ben a newidiodd ei fywyd ac sy’n mynd trwy broses o adferiad .Roedd hefyd yn gyfle i hyrwyddo llesiant y ddau ohonom.
“Rwy’n mwynhau gweld fy ngŵr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau nad oeddem yn meddwl oeddent ar ei gyfer ef. Mae mor dda i’n hiechyd a’n lles ni’n dau, cael ein trochi yng nghanol llonyddwch natur, gyda chefnogaeth ac arweiniad. Rwy’n dechrau mwynhau’r drefn garddio a bod yn rhan o wneud rhywbeth defnyddiol gyda phobl o’r un anian.”
Category: Newyddion Diweddaraf