enquiries@tywigateway.org.uk Parc a Gerddi yr Esgob, Abergwili, Sir Caerfyrddin SA31 2JG

Hanes

Mae Parc a Gerddi’r Esgob wedi bod yn fan dysg, ffydd a golygfeydd hardd ers cannoedd o flynyddoedd.

Mae Parc a Gerddi’r Esgob yn gyforiog o hanes. O’r coed hynafol sydd wedi bod yn cadw llygad ar bopeth yma ers canrifoedd, i’r Ardd Furiog sydd wedi darparu bwydydd egsotig a blodau ar gyfer bwrdd yr Esgob i’r ystumllyn a thirwedd gyfnewidiol gorlifdir Dyffryn Tywi, i Balas canoloesol yr Esgob y mae’r Parc yn ei gwmpasu a’r bobl fu’n byw ac yn gweithio yma.

Mae’r cydweithio rhwng staff yr amgueddfa a gwirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth wedi llwyddo i gasglu straeon am Esgobion Tyddewi, eu palas a’r gerddi Abergwili a’r cymunedau fu’n byw ac yn gweithio yma. Mae’r gwaith hwn yn dal i barhau ac rydyn ni bob amser yn gweithio tuag at ychwanegu at ein deunydd archifol a rhannu straeon am y Palas a’r Parc – felly os hoffech chi ymchwilio neu gyfrannu – cysylltwch â ni!

Pam adeiladu yma?

Cyn creu Palas yr Esgob, bu’r esgobion yn ddylanwad ar fywydau pobl Abergwili. Ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg, penderfynodd Yr Esgob Thomas Bek adeiladu coleg eglwysig yn Abergwili – un o bedair tref yn Sir Gaerfyrddin oedd yn eiddo i Esgobion Tyddewi. Does neb yn siŵr pam Abergwili – ond mae’n rhaid bod y cysylltiadau trafnidiaeth da â Chaerfyrddin, y dref hynaf yng Nghymru lle mae pobl yn dal i fyw, yn un o’r rhesymau pennaf.

Man teilwng ar gyfer Esgob

Cafwyd coleg yn Abergwili tan ganol y 16eg ganrif, pan benderfynodd Yr Esgob William Barlow, o sylweddoli pa mor anghysbell oedd Tyddewi fel lle i fyw, symud y coleg i Aberhonddu er mwyn iddo allu troi Abergwili’n gartref newydd iddo. Bu’r palas yn gartref i Esgobion Tyddewi am y 431 mlynedd nesaf.

Cartref y Dadeni Cymreig

Yn 1561 trodd Yr Esgob Richard Davies y lle’n gartref y Dadeni Cymreig. Daeth artistiaid ac awduron a beirdd i Abergwili yn cynnwys William Salesbury, prif ysgolhaig cyfnod y Dadeni yng Nghymru. Tra’n aros yn Abergwili a gweithio gyda’r Esgob Davies, lluniodd y cyfieithiadau Cymraeg cyntaf o’r Testament Newydd a’r Llyfr Gweddi Gyffredin. Drwy greu Beibl Cymraeg helpodd i sicrhau parhad yr iaith Gymraeg i’r dyfodol.

Datblygu’r Parc a’r Gerddi

Yn y cyfamser, digon diweddar yn hanes y safle yw tystiolaeth am y gerddi a’r parcdir yn Abergwili. Hyd yn oed yn y rhestr o eiddo dan berchnogaeth Esgob Tyddewi a luniwyd yn 1326 ni cheir sôn am fodolaeth yr Ardd na’r Parc. Nid tan gofnodion yr Esgob Ottley yn 1713 y ceir y cyfeiriad cyntaf at erddi Abergwili. Dysgwch am ddatblygiad y Parc a’r Gerddi.

Tirwedd Dyffryn Tywi

Un o’r nifer o esgobion i ymgymryd ag adnewyddu’r palas a’r safle oedd Yr Esgob Arglwydd George Murray a wnaeth newidiadau sylweddol ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dyma’r adeg, o ganlyniad i lifogydd difrifol 1802, y newidiodd yr Afon Tywi ei chwrs i ffwrdd wrth Barc yr Esgob ymhellach i’r de ar draws llawr y dyffryn, gan adael ond ystumllyn lle’r arferai’r afon fod. Rhoddwyd yr enw ‘Pwll yr Esgob’ ar yr ystumllyn hwn sy’n gorwedd ym mhen dwyreiniol Parc yr Esgob, ac yn hafan ar gyfer bywyd a phlanhigion gwyllt.

Gerddi Pleser yr Esgob Jenkinson

Ond ychydig flynyddoedd wedi adnewyddiad Murray yn 1825, pan ddaeth John Jenkinson yn esgob, roedd y Palas unwaith eto yn cael ei ddisgrifio yn agos at fod yn adfail. Ar ei gost ei hun, trefnodd yr Esgob Jenkinson i’r adeilad gael ei adnewyddu’n llwyr mewn arddull Elisabethaidd gan ailfodelu’r tir o gwmpas mewn modd deniadol gyda golygfannau drwy’r coed ledled ac ar hyd y dyffryn. Yn y 1840au, dywedwyd ei fod wedi ‘ychwanegu llawer i harddwch a phleser y gerddi drwy welliannau synhwyrol.’ Y dyluniad hwn, a gofnodwyd mewn cynllun o’r Palas a’r gerddi yn 1843, sydd wedi’i ddefnyddio i arwain y gwaith adnewyddu ac i ysbrydoli cynllun gardd fynediad newydd Jenkinson.

(c) Caryl Thomas

Pobl y Palas

O ganol y 19eg ganrif ymlaen, mae mwy o dystiolaeth o aelwyd yr Esgobion wedi goroesi, ac nid yn unig gwragedd a phlant. Er enghraifft, yn 1861, cofnoda’r cyfrifiad howsgiper, cogydd, prif nyrs, 2 forwyn, morwyn cegin, is nyrs, morwyn laeth a throedwas yn byw yn y palas yn ogystal â’r Esgob Connop Thirlwall a’i or-neiaint a’i or-nith 5, 3 a 2 oed, a dau ohonyn nhw wedi eu geni yn Abergwili.

Helpwch ni i ddarganfod mwy am y Parc

Mae mwy o straeon am y Palas, y gerddi a’r bobl fu’n byw a gweithio yma wedi eu darganfod gan ein gwirfoddolwyr ac rydyn ni’n ychwanegu at yr archif hon yn barhaus ac yn cyhoeddi deunydd newydd ar ein gwefan. I helpu neu gyfrannu, cysylltwch â ni!