enquiries@tywigateway.org.uk Parc a Gerddi yr Esgob, Abergwili, Sir Caerfyrddin SA31 2JG

Aelodaeth

Dod yn aelod

Oes gennych ddiddordeb mewn safleoedd hanesyddol, gerddi, bywyd gwyllt neu gadwraeth? Neu, a ydych wrth eich bodd i gael y cyfle i fod allan yn yr awyr agored a mynd am dro? Efallai eich bod am ein helpu ni i achub y darn anhygoel hwn o’n hanes a threftadaeth leol er mwyn i’r cenedlaethau’r dyfodol ei brofi a’i fwynhau. Mae grantiau prosiectau wedi ein galluogi i gyflawni llawer, ond mae angen eich help chi arnom i gadw’r gerddi yma i fynd.

Fel aelod, byddwch yn cefnogi elusen annibynnol sy’n ymroddedig i adfer a chynnal Parc Yr Esgob. Mae aelodaeth yn rhoi:

  • cyfle i fod yn rhan o’r prosiect arbennig yma
  • Cylchlythyr misol ar gyfer aelodau
  • digwyddiadau a sgyrsiau ‘tu ôl i’r llenni’ arbennig

I ymaelodi, dilynwch y linc: https://membermojo.co.uk/parcyresgob/joinus neu llenwch y ffurflen sydd ar gael o’r Dderbynfa neu argraffwch o’r linc isod a’i dychwelid i ni gyda’ch taliad.

Membersleaflet24