Cyfleoedd Gwirfoddoli
20/05/2024
By Ffiona Jones
Mae gennym gyfleoedd ar gyfer gwirfoddolwyr i’n helpu gydag ein teithiau tywysedig dros fisoedd yr haf. Os oes gennych ddiddordeb yn hanes y safle ac yr ydych yn gallu rhoi awr neu ddau o’ch amser naill ai yn yr wythnos, gyda’r hwyr neu ar benwythnosau, cysylltwch â FfionaJones@tywigateway.org.uk am fwy o fanylion. Bydd hyfforddiant llawn …
Y Caffi
Cegin Stacey’s Kitchen
Mae’r caffi ar agor rhwng 9 o’r gloch y bore a 5 o’r gloch y prynhawn, 7 diwrnod yr wythnos (fel arfer).
Cwmni lleol o Abergwili yw Stacey’s Kitchen ac y maent yn darparu cinio ysgafn, cacennau, te, coffi ayb. Maent yn cynnig Byrddau Pori a The Prynhawn, ond rhaid eu harchebu o flaen llaw. Maent hefyd yn cynnig arlwyo a digwyddiadau preifat.
Cysylltwch yn uniongyrchol a Stacey’s Kitchen am ragor o wybodaeth.
Rhif ffôn: 07805 512 028
Ebost: stacey@staceys-kitchen.co.uk
Stacey’s Kitchen stacey_kitchen_ekss