Taith Nodi Bywyd Gwyllt Ionawr 2023

Taith Nodi Bwyd Gwyllt Ionawr – 17/01/2023

Fe ymunodd rhyw 6 neu 7 aelod o’r cyhoedd gyda ni ar gyfer taith mis Ionawr. Yn anffodus, doedd ddim arbenigwr adar yn ein plith, felly ni lwyddwyd adnabod llawer o’r adar a glywyd yn hytrach na’i gweld. Er hynny, fe wnaethom weld nifer o rywogaethau adar ar draws y safle. Roedd hi’n ddiwrnod rhewllyd ac yr oedd newydd orffen bwrw eira wrth i ni gychwyn ar ein taith.

Welwyd fod mwy o fylbiau’r gwanwyn yn pigo trwy’r pridd yng Ngardd Jenkins. Sylwyd ar gynffonau wyn bach wrth y fynedfa, yng nghyd a phriddwalau ar y borfa wrth ochr y llwyr. Mae  blagur yn dechrau ffurfio ar nifer o’r coed a’r llwyni. Wrth i ni gerdded ar draws llwybr y coedir, welwyd mwyalchen gwrw, robin goch, ysguthan ac haid o ji-bincod. Welwyd coch y berllan yn eu mysg hefyd. Daeth haid o frân i dop y coed ac fe welsom fwyalchen fenyw a thitw mawr wrth i ni gerdded ymhellach ymlaen ar y llwybr.

Pan ddaethom yn ôl lawr i’r llwybr gwaelod, fe oedon ni wrth ochr y pwll, ac fe wnaeth 3 wiwer ddisgyn i lawr o dop y coed i’r llwyni wrth ochr y pwll. Er bod llif wythnos diwethaf wedi cilio, roedd y pwll dal yn llawn iawn. Roedd rhannau ohono ac iâ dal i sefyll ar yr wyneb, er ei fod yng nghanol y prynhawn. Welwyd hwyaden wyllt ar y pwll ac iâr dŵr ar yr ynys. Croeson ni i’r Waun Fawr a oedd wedi rhewi’n galed ar ochr y pwll, ond dal yn wlyb iawn ar ochr y parc, yn dilyn llifogydd yr wythnos flaenorol, pan oedd y dŵr wedi cyrraedd top y giatiau dwywaith o fewn ychydig ddyddiau. Roedd dal ogfaen ar y llwyni ac fe welwyd cynffonau wyn bach ar wernen yn y clawdd. Welwyd brych y coed yma yng nghyd a thitw tomos las.

Fe wnaeth rhai o’r grŵp gerdded ymlaen at waelod rhan uchaf y cae, ac fe gafodd sawl un traed gwlyb, gan fod y rhan yma, er ei fod i weld fod y dŵr wedi cilio, dal yn siwps diferu! Sylwyd fod yr aeron celyn a oedd dal ar y coed mis diwethaf, wedi mynd erbyn hyn.

Wrth i’r grŵp gerdded o amgylch y llwybr gwaelod, fe welwyd bylbiau cennin Pedr a lili wen fach yn dechrau dod i’w blodau yng nghyd a blagur ar rhai o’r planhigion addurnol o amgylch yr amgueddfa. Roedd briallu yn eu blodauac fe welwyd aderyn y to wrth ddychwelid i’r dderbynfa.