Taith Nodi Bywyd Gwyllt Chwefror 2023

 

Cynhaliwyd Taith Nodi Bywyd Gwyllt mis Chwefror yn ystod wythnos hanner tymor, ac roedd hi’n braf cael grŵp bach o ferched ifanc i ymuno gyda ni.

Welwyd arwyddion yr o ddyfodiad y gwanwyn wrth gerdded trwy Ardd Jenkinson ar ddechrau ein taith, gyda’r saffrwm a oedd yn picio trwy’r pridd mis diwethaf nawr yn eu blodau.

Roedd rhagor o arwyddion ar y coed gyda chwtau oen bach i weld ym mhobman a blagur ar ran fwyaf o’r coed. Roedd blagur ar yr ysgawen yn dechrau agor. Gwelwyd a chlywyd mwyalchen gwrw yn y llwyni wrth fynedfa llwybr y coedir ac fe welwyd haid o ji-binc yn y coedir, yng nghyd ac ysgythod a bran.

Clywyd titw mawr yn bloeddio yn agos i’r bont a sylwyd ar bâr o gwtieir yn y pisgwydd ar lan yr ynys, yng nghyd a gwiwer lwyd. Gellir gweld helygen deilgron yn ei flodyn ar yr ynys.

Er y llifogydd mis diwethaf, mae’r dŵr yn y pwll wedi cilio dipyn yn barod. Roedd 2 bar o elyrch dof ag un gwrw ar ben isaf y pwll. Gwelwyd nifer o hwyaid gwyllt, gan gynnwys un fenyw i fyny ar frigyn coeden wrth ochr y pwll!

Ar Y Waun Fawr, sylwyd ar ddau robin goch, sawl ysguthan a barcud. Yn y gwter sy’n rhedeg ar draws y cae o’r hen goeden dderw at y clawdd, roedd clwstwr mawr o griff. Sylwyd ar dwll wedi ei balu yn y pridd, ond roeddwn methu ag adnabod beth oedd wedi ei greu, roedd i weld yn rhy ddofn ac ar ongl anghywir i fod wedi ei greu gan gi. Ar hen goeden dderw, sydd â hollt mawr ynddo, welwyd beth yr ydym yn tybio yw wystrys y coed yn tyfu arno. Roedd blagur castanwydden y meirch yn fawr ac yn ludiog.

Yn y glaswellt sylwyd ar y dail tafol yn tyfu, ysgall yn dechrau gyrru, llaethlys, dinant, berw chwerw a rhwyddlwyn.

Ar y lawnt, roedd nifer o flodau llygaid yr haul ac ambell i flodyn Ebrill yn dod trwyddo, yng nghyd a charped o eirlys wrth ochr yr Ha-ha a’r llwybr.