Taith Nodi Bywyd Gwyllt Rhagfyr 2022

Mae ffwng cromfachau oren-frown yn tyfu ar hyd boncyff coeden sydd wedi cwympo ac wedi'i orchuddio â mwsogl, wedi'i amgylchynu gan ddail eiddew gwyrdd a llystyfiant llawr coedwig.

Taith Nodi Bywyd Gwyllt 20fed Rhagfyr 2022

Roedd taith mis Rhagfyr yn un eithaf byr oherwydd cyfyngiadau amser wrth i’r Nadolig agosáu. Er hyn ni rwystrodd hyn y nifer o rywogaethau o adar a chlywyd a gwelwyd wrth gerdded o amgylch y Parc.

Wrth i ni adael Gardd Jenkinson, lle’r oedd y bylbiau’r gwanwyn yn pipio trwyddo, fe welwyd barcud coch wrth ein pennau. Wrth i ni droi i mewn at lwybr y coedir, fe welwyd mwyalchen benyw yng nghyd a nifer o ditw tomos las. Wrth gerdded uwchben yr ardd a goedir sylwyd ar nifer o ysguthaniaid, bwncath yn esgyn yn fry uwchben y Waun Fawr ac asgell fraith, yng nghyd a robin goch a oedd i’w gweld yn ein dilyn.

Roedd Pwll Yr Esgob yn nôl i’w gynhwysedd arferol. Gwelwyd iâr y dŵr a dwy hwyaden wyllt wrywaidd. Fe roddwyd gwybod i ni yn ystod yr wythnos flaenorol ein bod wedi cael ymwelydd o Ogledd America ar y pwll – hwyaden dorgoch benyw a oedd yma yng nghyd a grŵp o hwyaid gopog. Yn anffodus, ni chafodd y staff na’r gwirfoddolwyr y cyfle i’w gweld. Roedd y Waun Fawr, er yn wlyb o dan droed, dal yn ddigon cadarn i’w gerdded ac ychydig iawn o ddŵr oedd yn yr ha-ha. Mae gallu edrych yn ôl ar y parcdir o’r cae yn rhoi cyfle i ni asesu canopi’r coed ac i sylwi ar y bywyd gwyllt, enwedig yr adar, yr ydym fethu eu gweld o’r llwybrau. Roedd y coed collddail wedi gollwng eu dail i gyd erbyn hyn, ond am ambell i ffawydden oedd dal ag ambell i ddeilen yn glynu wrth ei brigau. Roedd rhan fwyaf o’r aeron wedi mynd, ond roedd dal peth i’w gweld ar y celyn fraith ac egroes ar hyd y ffens wrth ochr y pwll.  Roedd titw mawr, coch y berllan ac adar du yn bwydo ar rain. Wrth gerdded ar hyd yr ha-ha welsom a chlywsom brith y coed, dryw ac roedd hefyd llwyth o wybed mân dros yr ha-ha!

Wrth gerdded nôl ar hyd y llwybr isaf, nodwyd fod yna dal dipyn o ffwng diddorol ar foncyffion y coed sydd wedi eu torri neu gwympo.

Gorffennwyd y daith yn yr ardd furiog lle gwelsom sawl robin goch ac adar du yn gwledda ar yr afalau cwymp a’r compost ffres ar y gwlâu. Tra oeddwn yno, fe welwyd grŵp o fran yn ymosod ar fwncath wrth ben y Waun Fawr ac fe wnaeth grŵp o 3 gŵydd Canada hedfan drosodd.