Swyddi Gwag – 3 x Lleoliad Hyfforddiant Garddwriaethol â Thâl
14/07/2026
By Admin2
14-16 awr yr wythnos am 16 wythnos (oriau hyblyg trwy gytundeb) £177.94-£203.36 yr wythnos Manylion: 260707.Cym.HorticulturalTraineesRD.PyE2 Anfonwch e-bost at teresawalters@tywigateway.org.uk erbyn dydd Mercher 19eg Awst, yn esbonio pam yr hoffech weithio gyda ni a sut mae eich profiad a’ch diddordebau’n cyd-fynd â’r rhinweddau a amlinellir yn y Manyleb Person, gan roi rhai enghreifftiau. Cynhelir cyfweliadau ar y 9fed …
















Gwylio Bywyd Gwyllt: Rhagfyr 2021
Posted: 22/12/2021 by Caroline Welch
Louise, Ffiona a ? ar 20/12/21
Roedd yn ddiwrnod oer, mwll ar ddiwedd Rhagfyr. Sylwom ar fylbiau’n dechrau torri drwy’r pridd yng Ngardd Jenkinson – arwydd da fod y Gwanwyn ar droed.
Heddiw roedd rhosyn dringo newydd gael ei blannu yn erbyn y pergola – mae’r gwaith plannu yng Ngardd Jenkinson bron yn gyflawn!
Sylwon ni ar ambell blisgyn cnau cyll islaw’r coed Bocs – ai cnofilod oedd yn gyfrifol, neu wiwerod? A boncyff coeden ddiddorol oedd yn pydru.
Mae pob deilen wedi disgyn oddi ar y coed collddail – ond fe sylwon ni ar ambell flaguryn ar y coed ffawydd.
Fe welson ni ambell ffwng.
… a rhai tyllau cnofilod a phridd y wadd.
Sylwon ni ar gerfiadau ar y goeden ffawydd hon yn dyddio’n ôl i 1862!
A phlanhigion yn eu blodau – llysiau’r gwaed, dant y llew, rhosod.
Ar ein taith gerdded fe welson ni: fronfraith, brych y coed, robin, dryw, mwyeilch, titwod tomos las, alarch dof, hwyaid gwylltion, telor y cnau a sgrech y coed.
Category: Newyddion Diweddaraf, Monthly Wildlife Watch, Bywyd Gwyllt Tags: ffawydd, madarch