Tach 2021: Gwylio Bywyd Gwyllt am y tro cyntaf

Cartheig yn blodeuo’n ddewr ym mis Tachwedd – ar gyrion yr Ardd Furiog.

Heddiw, fe ddechreuon ni ar ein prosiect Gwylio Bywyd Gwyllt Misol cyntaf – gan sylwi ar y fflora a’r ffawna a nodi’r newidiadau tymhorol yn y Parc. Roedd yn ddiwrnod llwyd a chymylog – yn annhebyg i’r diwrnod heulog a gafwyd ddoe – a chafwyd llwydrew dros nos. Dechreuodd Suzie, un o’n gwirfoddolwyr gardd, a minnau yng Ngardd Jenkinson gan nodi’r blodau cyntaf oll i ni eu gweld – chwerwlys torddail, blodau-pigwrn blewog, teim a fflocs (yn llochesi y tu ôl i’r fainc), un llygad y dydd gwyn yn y borfa ac fe sylwon ni ar dyfiant diweddar y cloddiau bocs. Roedd yr ardal hon – a blannwyd o’r newydd ym mis Mawrth 2021 – yn gyforiog o beillwyr dros yr haf, a bydd hi’n hynod gyffrous i weld y lle’n dod yn fyw unwaith eto yn ystod ei ail flwyddyn y gwanwyn nesaf. Plymiodd robin bach i lawr y tu ôl i ferfain yr Ariannin i chwilio am fwyd.

O gerdded ar hyd y llwybr i’r prif Barc (byddwn yn dilyn yr un llwybr bob mis) fe sylwon ni ar bridd y wadd o flaen yr ardaloedd bywyd gwyllt mierog, ac aeron ar y cwyros coesgoch – bwyd naturiol i’r adar y mae galw mawr amdano yn ystod yr adeg hon o’r flwyddyn. Gwelwyd dwy ysguthan yn un o’r coed tal, yn ogystal ag ambell robin arall, a gwiwer neu ddwy! Mae ychydig ddail yn dal i’w gweld ar y blanwydden Llundain fawreddog sy’n dominyddu dechrau llwybr y Parc; mae mwyafrif ei dail yr un mor fawreddog wedi disgyn ar y borfa a bellach yn dechrau ymddatod wedi llwydrew neithiwr.

Ffyngau anhysbys yn y Parc!

Yn yr Ardd Goetir fe welson ni ffyngau cynffon twrci ar y boncyff i’r chwith – rydyn ni wedi gweld mwy o ffyngau yma yn y gorffennol (er nad ydym ni wedi eu hadnabod nhw i gyd eto!) ond maen nhw’n dechrau mynd ychydig yn hen bellach. Gerllaw, mae’r goeden gelyn sydd wedi’i hail-lunio’n gwneud sioe o’i haeron coch ac fe sylwon ni ar y llysiau’r gwaed yn blodeuo fel rhan o’r gorchudd daear oedd newydd ei blannu; yn ogystal â blodau neidr a briwlys y gwrych yn yr ardaloedd gwyllt o gwmpas yr Ardd Coetir.

Alarch Dof ar Bwll yr Esgob

Ymhellach ar hyd y llwybr tuag at Bwll yr Esgob lle trodd ein sesiwn gwylio bywyd gwyllt yn fwy myfyriol wrth i ni oedi i wylio’r alarch dof gwyn urddasol yn nofio i fyny ac i lawr, gan fwydo ac ymestyn ei adenydd yn achlysurol ar y llyn. Fe welson ni 4 hwyaden wyllt yma, yn ogystal â 3 hwyaden chwiwell a chwtiar – gyda’i chri unigryw. Buon ni n sgwrsio ag ymwelydd cyson â’r Parc a ddywedodd ei fod wedi gweld 3 dyfrgi’n nofio tua’r dwyrain yn y pwll rai blynyddoedd yn ôl. Buasem wrth ein boddau’n cael gwybod os ydyn nhw yma o hyd – a pha bysgod y maen nhw’n eu dal!

Fe welson ni fwy o wiwerod ar y ffordd yn ôl o’r Pwll wrth i ni ymlwybro ar hyd llwybr gwaelod y waun, ar hyd ochr yr Ha-ha. Fe welson ni hefyd ddrysfa o rosebillion yn gymysg â llawryf (mae llawer o’r llawryf wedi mynd am ei fod yn llethu’r fflora brodorol – ac rydyn ni’n ysu i weld beth ddaw i’r golwg yn yr ardaloedd sydd newydd eu clirio yn y Flwyddyn Newydd), ac ar ochr arall yr Amgueddfa, mewn gwelyau ffurfiol, mae yna ffatsia, eurinllys a rhosyn pinc yn dal i flodeuo ychydig. Roedd yna flodyn melyn anhysbys ar lwybr yr Ardd Furiog – cartheig efallai?

Ffyngau, iorwg a mwsogl ar yr hen goed afalau yn yr Ardd Furiog

Nawr yn yr Ardd Furiog – ein cyrchfan olaf – fe welson ni flodau melyn Mair, y ferfain a thafod yr ych yn dal yn eu blodau, yn ogystal â chapanau cornicyll yn llipa wedi’r llwydrew, ond â’u harogl yn dal yn gryf yn yr aer. Buon ni’n edmygu’r cennau, rhedyn a’r ffyngau’n tyfu ar yr hen goed afalau treftadaeth, yn cael hoe eleni wedi cynhaeaf toreithiog yn 2020. Yn y borfa hirach fe welson ni ambell goesyn melyn yr hwyr – rhai’n dal i gynnal eu blodau melyn cwpanog perffaith; ac ychydig efwr blodeuog hefyd – o bosib o ganlyniad i’r modd y torrwyd y borfa’n ddiweddar.

Buasem wrth ein boddau’n gweld mwy o bobl yn ymuno â ni ar ein sesiynau gwylio misol ac yn croesawu’r rhai sy’n gallu adnabod adar, pryfed a bywyd gwyllt arall yn fawr iawn! Felly mae croeso i chi gysylltu os hoffech gymryd rhan.