Hydref 2022

Taith Nodi Bywyd Gwyllt Parc Yr Esgob – Hydref 18fed 2022

Presennol: Ffiona a 3 o’n gwirfoddolwyr

 

Gardd Jenkins – rhan fwyaf o’r blodau yn gwywo a marw nôl ond nifer fawr o wenyn dal o amgylch.

Wrth gerdded lawr y llwybr gogleddol, sylwyd ar ffwng yn tyfu ar hen foncyff sy’n pydru yn y prysgwydd. Clywyd Jac Do uwch ein pennau.

Mae dal nyth o wenyn mewn twll yn uchel yn y blanwydden Llundain ac y maent dal yn brysur iawn. Gwelwyd nifer yn mynd i mewn ac allan ohono.

Mae’r coed yn dechrau newid lliw ac yn disgyn ac y mae carped o ddail yn dechrau casglu o dan y blanwydden Llundain a’r ffawydden fawr, lle mae llwyth o fes y ffawydden wedi disgyn i’r llawr. Yn yr ardal yma fe glywyd delor y cnau a robin goch. Ar draws y gerddi pleser, mae’r mwyar wedi marw nôl ond fe welwyd mwyar y cywrosyn cochfrig ar ochr llwybr y goedlan, yng nghyd a phidyn y gog. Mae darnau mawr o ffwng yn tyfu allan o un o’r coed ffawydden yn yr ardal yma o’r goedlan. Yn ôl ein prif arddwr Piers, mae hwn yn lladd y goeden gan ei fod nawr wedi sefydlu o fewn y boncyff.

Hyfryd oedd gweld fod lefel y dŵr yn dechrau cynyddu ym Mhwll Yr Esgob ar ôl gwanwyn a haf sych ofnadwy, lle’r oedd rhannau uchaf y pwll yn hollol sych. Gwlewyd par o elyrch ar y pwll ychydig ddyddiau yng nghynt ac fe welwyd brych y coed yn un o’r coed yn agos i’r bont newydd. Mae carped o fes yma gydag olion fod rhyw fath o gnofil wedi bod yn eu bwyta. Ychydig ymhellach i fyny’r llwybr fe welwyd iâr fach yr haf ar yr iorwg wrth ochr y pwll – mantell goch, yng nghyd a nifer o bryfed, yn cynnwys mursen.

 

Am y tro cyntaf yn ein hanes, fedrwyd cynnwys Y Waun Fawr, ein llifddol yn y daith y mis yma, gan fod y gwaith i greu pont i groesi cwter yr Ha-Ha wedi ei gwblhau dros yr haf.  Mae dal llawer o jac y neidiwr yn tyfu yn ac ar ochrau gwter yr Ha-Ha, er gwaith caled ein gwirfoddolwyr i geisio ei waredi gan ei fod yn rhywogaeth ymledol. Er hynny, mae yn darparu bwyd i nifer o beillwyr yn hwyr yn y tymor. Roedd yn hyfryd medru nodi’r hyn a oedd yn digwydd ar ben isaf y pwll am y tro cyntaf hefyd, wrth i ni gerdded i lawr gyda’r ffens. Welwyd titw tomos las, ac yna mwyalchen fenywaidd yn bwydo o fewn draenen wen. Yn y coed cyfagos, fe glywyd dryw a robin ac ymhellach i lawr y cae fe welwyd bronfraith a delor y cnau. Mewn coeden celyn cyfagos roedd mwyalchen wrywaidd, goch dan adain ac ochr arall yr Ha-ha, welwyd ysgythain.

Wrth i ni gerdded ar draws y brif ran o’r llifddol, sylwyd fod y borfa dal i fod yn llawn rhywogaethau cynhyrchiol, yn enwedig rhygwelltoedd – rhygwellt parhaol a rhygwellt Eidalaidd, er ein bod wedi taenu ‘gwrtaith gwyrdd’ o ddolydd traddodiadol Gerddi Botaneg Genedlaethol Cymru llynedd. Gwelwyd llawer o droed y ceiliog ac ychydig rhonwellt yng nghyd a blodyn-ymenyn ymlusgol, ysgall, llyriad canghennol ac, yn anffodus llawer o ddail tafol – sy’n arwydd fod dal stôr uchel o nitrogen yn y pridd. Cerddom o amgylch terfyn allanol y llifddol ac fe fedrwyd gweld pen isaf Pwll Yr Esgob, lle welwyd iâr ddŵr yn y corsydd. Wrth i ni gerdded nôl at y bont, gwelwyd hwyaden wyllt ar y pwll.

Nol yn y gerddi pleser, roedd yna wledd o wahanol ffwng yn tyfu ar ac o gwmpas yr hen foncyff ffawydden sy’n ganolbwynt i’r ardd a goedir. Mae ffwng ym mhobman eleni ar draws y parc ac fe ddaethpwyd o hyd i nifer o rywogaethau eraill ar ochrau’r llwybr isaf, yng nghyd ac ar y boncyff onnen sydd wedi eu hail-bwrpasu.

Daethpwyd a’r daith i ben fan hyn, gan ein bod wedi bod allan am ddwy awr erbyn hyn!