Straeon Staff – Anne May
20/10/2026
By Anne
Swyddog Ymgysylltu Gyda chefndir yn gweithio gyda phobl ifanc yn y gymuned, mae Anne yn ymwybodol o’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag ymgysylltu mewn gweithgareddau a’r bwysigrwydd o berthyn. Ar ôl gweithio i elusennau sy’n meithrin ac yn gwerthfawrogi gwirfoddoli, mae hi wedi gweld y manteision y gall gwirfoddoli eu cynnig i fywydau’r rhai sy’n …
















Teithiau Nodi Bywyd Gwyllt yn Dychwelid
Posted: 11/10/2022 by Ffiona Jones
Rydym yn ail-ddechrau ein teithiau misol i nodi bywyd gwyllt Parc Yr Esgob ar ôl seibiant dros yr haf. Mae arsylwi a nodi’r bywyd gwyllt ar draws y safle yn rhan bwysig o’r gwaith ecolegol yr ydym yn ei wneud yma ym Mharc Yr Esgob. Mae’n galluogi ni i weld os yw’r gwaith yr ydym wedi ei gyflawni yn barod yn gweithio i ehangu bioamrywiaeth y safle.
Mae croeso i unrhyw un ymuno gyda ni, gan gynnwys naturiaethwyr profiadol, neu aelodau o’r cyhoedd sydd am ddysgu mwy am yr amgylchedd naturiol.
Byddwn yn cwrdd wrth y dderbynfa am 2 o’r gloch y prynhawn ar y 3ydd dydd Mawrth o’r mis. Gwisgwch ddillad addas ar gyfer y tywydd ac esgidiau cadarn neu wellingtons.
Category: Newyddion Diweddaraf