enquiries@tywigateway.org.uk Parc a Gerddi yr Esgob, Abergwili, Sir Caerfyrddin SA31 2JG

Ystlumod Parc yr Esgob

Mae cyfanswm o chwe rhywogaeth o ystlumod wedi eu cofnodi ym Mharc yr Esgob yn cynnwys ystlumod lleiaf a sopranoystlumod hirglustystlumod Nattererystlumod mawr a’r ystlum pedol mawr prin ac arbennig. Rydyn ni wrth ein boddau fod y creaduriaid arbennig yma wedi ymgartrefu yma ym Mharc yr Esgob ac yn ffynnu yma.

Mae’r ystlumod pedol mawr a gofnodwyd ym Mharc yr Esgob yn brin ledled Cymru a’r DU ac er bod Sir Benfro’n un o’u cadarnleoedd yn y DU, prin iawn yw’r clwydau yn Sir Gaerfyrddin.

Cofnodwyd cyfanswm o saith ystlum pedol mawr yn clwydo yn adfeilion hen adeiladau’r Esgob – yn y llaethdy, pantri a’r bragdy – ers 2016. Cadwyd gofod mawr yn y llofft a mynedfa addas (gweler y darlun isod) – yn ystod y gwaith adeiladu fel bod modd defnyddio’r prif adeilad o hyd yn y dyfodol a chynyddu’r nifer o ystlumod pedol mawr sy’n ymgartrefu ar y safle dros amser gobeithio.

Ymhellach, am ein bod ni nawr yn rheoli’r waun a’r parcdir i gefnogi’r ystlumod, ein gobaith yw y bydd hyn yn cynyddu argaeledd pryfed prae (chwilod mawr a gwyfynod) i ystlumod eu bwyta.

Fel rhan o ddatblygiad y Parc, mae clwydau wedi’u darparu ar gyfer yr ystlum Natterer, a gofnodwyd yn magu yma yn 2020, a rhywogaethau eraill o ystlumod, yn llofftydd a thoeon yr adeiladau ac mewn bocsys ystlumod o gwmpas y Parc.

Yn gyffredinol, bydd ystlumod pedol mawr, ystlumod mawr ac ystlumod lleiaf yn chwilota am fwyd mewn cynefinoedd agored fel arfer megis y Waun Fawr a Phwll yr Esgob, tra bod yr ystlumod Natterer a’r ystlumod hirglust yn defnyddio mwy o’r ardaloedd coediog.

Mae’n debygol fod yr ystlumod Daubenton hefyd yn defnyddio Pwll yr Esgob er mwyn chwilota am fwyd ac mae rhywogaethau eraill o ystlumod yn debygol o fod yn bresennol yn lleol gan basio drwy a chwilota am fwyd o fewn y Parc.

Ydych chi wedi sylwi ar unrhyw ystlumod yn y Parc? Rhowch wybod os ydych chi!