enquiries@tywigateway.org.uk Parc a Gerddi yr Esgob, Abergwili, Sir Caerfyrddin SA31 2JG

Teithiau Misol i Nodi Bywyd Gwyllt

Ebrill 2024

Taith Nodi Bywyd Gwyllt, 16 Ebrill 2024

Dechreuwyd am 2.10yp, gorffennwyd am 3.15yp. Un gwirfoddolwr yn bresennol.

Roedd hi’n brynhawn braf, gydag awel dwym yn yr haul, ond yn oerach yn y cysgod.

Dilynwyd yr un llwybr ag arfer o amgylch y parc, gan ddechrau a gorffen wrth y dderbynfa.

 

Gardd Jenkinson

  • Blodau lluosflwydd yn tyfu’n gryf.
  • Clychau’r Glog a’r brithtegion yn blodeuo yn yr ardal porfa wyllt.

Coedir

  • Roedd castanwydden y meirch wrth y giât wedi cwympo yn y gwynt ac yr oedd yn cael ei lifo i fyny.
  • Clywyd siff-saff, titw tomos las, dryw, robin a thitw mawr.
  • Dail yn agor ar y coed.
  • Hesg pendrwm – blodau’n dod i’r golwg.
  • Blodau’r neidr yn blodeuo.
  • Robin goch yn y llwyni.
  • Cachgi bŵm – cynffonlwyd, yn hofran yn y llwyni.

 

Uwch y Pwll

  • Llystyfiant yn tyfu’n gryf ar y banc serth wrth ben y llwybr – llawer o dafod yr hydd.
  • Titw tomos las
  • Mwyalchen Fenywaidd
  • Hwyaid gwyllt ar y pwll 2xG, 1x B
  • Pidyn y gog wrth ochr y llwybr.
  • Llawer o goed ifanc, yn enwedig onn a drain gwynion.

Y Waun Fawr a’r Pwll

  • Robin
  • Mwyalchen Bx1
  • Hwyaid gwyllt Gx3
  • Porfeydd yn dechrau blodeuo
  • Blodau’r menyn yn blodeuo.
  • Blodau llaeth

Ardal yr Haha

  • Chwyn pwll yn y dŵr.
  • Dinant
  • Dail erwain
  • Brwyn
  • Jac y neidiwr (nifer ar draws ymyl y clawdd rhwng y cae a’r pwll).
  • Blodau ceirios ar y goeden wrth y bont.

Gardd y Coedir

  • Blodau’r neidir
  • Llygad y dydd
  • Dant y llew
  • Gwybed hofran ar dant y llew

Parc

  • Llygad y dydd
  • Dant y llew
  • Gorthyfail

Maes Parcio/ardal y porthdy

  • Sgorpionllys
  • Balchder Llundain
  • Bengaled

Ionawr 2024

Taith Nodi Bywyd Gwyllt, dydd Mawrth 16 Ionawr 2024, dechrau tua 2.20yp

Roedd dyna ddau wirfoddolwr, yng nghyd ag un aelod o staff.

Roedd y tywydd yn oer ac yn gymylog, gydag ychydig o heulwen yn nes ymlaen.

Fe wnaethom ddilyn yr un llwybr a theithiau blaenorol, ond am ben pellaf y Waun Fawr oherwydd yr amodau mwdlyd. Roeddwn yn medru cael mynediad i’r Ardd Furiog heddiw, felly fe wnaethom ei adio i’r daith ar y ffordd nol. Roedd nifer mwy o adar i’w gweld a chlywed heddiw i gymharu â thro diwethaf (mis Tachwedd), ac roedd rhai blodau cynnar yn y gerddi ffurfiol. Uchafbwyntiau heddiw oedd gweld dau grëyr bach yn hedfan dros y Waun Fawr a dryw eurben i mewn yn y deilach trwchus coeden fythwyrdd wrth y maes parcio.

Gardd Jenkinson

Saffrwm yn eu blodau

  • Crafanc yr Arth yn eu blodau
  • Robinod yn canu

Coedir

  • Mwyalchen yn chwilota yn y sbwriel dail
  • Dryw yn canu
  • Clywyd hwyaden

Pwll

  • Corhwyaid – 2 gwrw a 3 benyw
  • Iâr y dŵr
  • Coch dan adain mewn coeden wrth ymyl y pwll.
  • Hwyaid Gwyllt – 3 gwrw
  • Dal ychydig o ia ar y pwll ar ôl y tywydd oer diweddar.

Y Waun Fawr

  • Brych y coed
  • Llwyd y gwrych
  • Ysgythain
  • Barcud
  • Mwyalchen, un fenyw, un gwrw
  • Ji-binc x 3
  • Clywyd delor y cnau yn galw
  • Crëyr bach
  • Alarch ar y dŵr
  • Robin x2
  • Titw Tomos Las

Yr Ardd Coedir

  • Ffwng melyn llachar ar foncyff coeden

Parc

  • Bran
  • Robin
  • Ji-binc, benywaidd
  • Gwelwyd 2 x crëyr bach yn hedfan dros y Waun Fawr
  • Mulfran yn hedfan dros y Waun Fawr
  • Brych y coed
  • Bronfraith
  • Mwyalchen
  • Dryw
  • Priddwalau newydd

Gardd Furiog

  • Barcud yn hedfan drosodd
  • Mwyalchen

Prysglwyni ac ardal y Maes Parcio

  • Egin cennin Pedr
  • Briallu yn eu blodau
  • Eurben

 

Tachwedd 2023

Cynhaliwyd taith mis yma ar ddydd Mawrth 21 Tachwedd, yn dechrau am 2:05yp. Roedd y tywydd yn fwyn, yn gymylog ond gydag ambell ysbaid heulog. Roedd un gwirfoddolwr ag un aelod o’r cyhoedd yn bresennol.

Fe wnaethom ddilyn llwybr a ddechreuodd yn yr Ardd Jenkinson, ymlaen ar hyd y llwybr uchod i mewn i’r coedir, allan i’r llwybr tu allan i’r wal ac yn ôl i mewn i’r parc trwy’r giât bellaf. Aethom i lawr y grisiau, gan ddilyn y llwybr uwchben y pwll cyn croesi’r bont arno i’r Waun Fawr. Fe wnaethom ddilyn y llwybr o amgylch yr ardaloedd llai mwdlyd o’r Waun Fawr cyn aildroedio’r llwybr yn ôl i’r Parc a dilyn y llwybr isod yn ôl i’r dderbynfa. 

Gardd Jenkinson:

Rhan helaeth o’r blodau addurniadol wedi dod i ben, er roedd rhai planhigion dal yn eu blodau:

  • Planhigion teim sy’n ymylu’r gwelyau dal yn eu Blodau.
  • Hadau ar y borfa addurniadol.
  • Hadau ar rhai o’r planhigion tal yn egino tra dal ar y planhigyn.
  • Blodau dyddgu.
  • Blodau tansi.
  • Ni welwyd unrhyw wenyn na phryfed heddiw.

Llwybr uchaf a choedir:

Hydrefol iawn, llawer o ddail wedi cwympo ar y ddaear. Rhan fwyaf o’r coed collddail nawr yn noethlwm, er bod rhai dal ag ychydig dail dal yn glyni arno. Welwyd:

  • Llawer o ffwng ar foncyff coed.
  • Marciau melyn wedi eu gadael gan larfa turwyr dail celyn ar y dail celyn
  • Aeron coch ar y coed celyn
  • Rhai blodau gwyllt, gan gynnwys blodau neidr
  • Mwyeilch
  • Robinod coch
  • Wiwer lwyd
  • Briwlys y gwrych dal yn ei blodau

Llwybr uwchben Pwll Yr Esgob:

Pwll dal yn weddol lawn ar ôl y glaw diweddar.

  • Hwyaid gwyllt – 2 gwrywaidd a 2 benywaidd, er roedd siŵr o fod rhagor yno, gan yr oeddwn yn medru gweld symudiadau yn y chwyn.
  • Gwelwyd symudiadau adar yn y coed ond nid oeddwn yn medru eu gweld yn ddigon clir i’w hadnabod.

Y Waun Fawr a golwg llydanach o’r pwll:

Roedd y ddaear yn fwdlyd iawn mewn mannau ar ôl y glaw trwm diwedda’r a gorlif yr afon. Nid oeddwn yn medru dilyn y llwybr ym mhellach na’r gwter yn rhan isaf y cae gan ei fod yn rhy fwdlyd. Gwelwyd:

  • Robinod coch
  • Wiwer lwyd
  • Sawl bronfraith
  • Ysguthan yn bwyta aeron celyn
  • Nicos
  • Ji-bincod
  • Ieir dwr x2
  • Nifer o adar bach yn hedfan ar draws y pwll i’r ynys, ond methu eu hadnabod (mwyeilch neu fronfreithod efallai?)
  • Blodyn menyn yn ei flodyn

Gardd coedir:

  • Blodau perfagl.
  • Llawer o ffwng – gwahanol siapiau a lliwiau ar foncyff y goeden gan gynnwys cynffon twrci.

Parc a’r ardal lawnt:

  • Rhagor o wahanol fathau o ffwng ar wahanol foncyff, gan gynnwys cyrn gwyn.

Ardal prysgwydd:

  • Wiwer arall

Ychydig o flodau hwyr – pig yr arian, pabi Cymreig, briallu.

Adroddiad gan DR Lewis, gwirfoddolwraig

Mis Gorffennaf 2023

Cynhaliwyd y daith ar ddydd Mawrth 18fed o Orffennaf, yn cychwyn am 2yp. Roedd hi’n bwrw glaw yn weddol o drwm trwy gydol y daith. Yn bresennol roedd Ffiona Jones  – aelod staff a myfyrwraig Bl.10 profiad gwaith o Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin.

Dilynwyd yr un llwybr ag arfer, trwy ddechrau yn yr Ardd Jenkinson, dilyn y llwybr uchaf ac yna trwy’r coedir, yn ôl arno i’r prif lwybr ac i fyny i waelod y stepiau, cyn troi nôl a chroesi’r bont arno i’r Waun Fawr. Yna, cylch cyfan o dalar y Waun Fawr, cyn dychwelid i’r parc ac ar draws y llwybr isaf a nôl o amgylch i’r dderbynfa.

Dyma a welwyd:

  • Nifer helaeth o gachgi bŵm, gan gynnwys cachgi bŵm y cardwr.
  • Picwns
  • Afalau yn tyfu ar y coed sydd wedi eu gwyntyllu o amgylch yr ardd.
  • Gwenyn mêl

Wrth gerdded ar draws y llwybr uchaf a drwy’r coedir:

  • Mwyar yn tyfu
  • Ji-binc
  • Mwyeilch (benywaidd a gwrywaidd)
  • Dryw
  • Ysguthan

Wrth edrych ar ymylon Pwll Yr Esgob gwelwyd:

  • Helaethrwydd o jac y neidr yn llawn peillwyr, gan gynnwys gwenyn, cachgi bŵm, mursennod, ieir bach yr haf triliw mawr.
  • Cafwyd cip olwg ar ddwrgi yn rhedeg ar draws y mwd ar ochr pellaf y pwll.
  • 4 ieir y dŵr

Ar y Waun Fawr welwyd:

  • Ysgall
  • Rhygwellt parhaol yn ei had
  • Blodyn menyn ymlusgol
  • Hadau ar y coed sycamor
  • Euryn ar y ddraenen wen
  • Ffwng
  • Gweirloynod y ddôl
  • Rhagor o ji-binc
  • Creulys y ffos
  • Brwyn ifanc
  • Pys y ceirw

Roedd nyth o gacwn meirch wedi sefydlu ym moncyff yr hen ffawydden sy’n ganolbwynt i’r ardd coedir.

 

 

Mis Mehefin 2023

Cynhaliwyd Taith Nodi Bwyd Gwyllt mis yma ar ddydd Mawrth 20fed o Fehefin am 2 yp. Ymunodd 5 aelod o’r cyhoedd gyda ni tro yma. Roedd y tywydd yn dwym ac yn glòs, gan ei bod wedi bwrw ychydig cyn i’r daith ddechrau, gydag ychydig haul ac yna cawod drom arall tra roeddwn yn cerdded.

Roedd rhai o’r blodau addurniadol wedi tyfu yn anferth ers mis diwethaf, gyda rhai llwyni o clafrllys melyn nawr dros chwe throedfedd o daldra! Roedd rhan fwyaf o flodau’r dolydd tu ôl i’r ymylon garddwrol wedi mynd drosodd, ac wedi ffurfio hadau ymysg blodau’r porfeydd. Welwyd sawl cachgi-bwm yn ardal yr ardd ffurfiol, gan gynnwys cardiwr a chynffon lwyd.

Wrth symud ymlaen, roedd nifer o’r planhigion a llwyni wrth ochr y coedir nawr yn eu blodau, gan gynnwys dynnant, y goesgoch, llwyni mwyar, rhosynnau gwyllt, bysedd y cŵn a llysiau’r gingroen, ac roedd blodau’r sycamorwydden yn datblygu i mewn i’w ffrwythau asgellog.

Ni welwyd llawer o adar ar hyd y lle, ond fe welwyd sawl  mwyalchen, benyw a gwrywaidd ac roedd telor penddu yn canu yn y coed wrth ein pennau.

Ar ochr coedir y pwll, y peth cyntaf a welwyd oedd blodau melyn y lili dŵr, gyda’r dail yn gorchuddio wyneb y dŵr bron yn gyfan. Roedd ddwy hwyaden wyllt, un bwn ac un gwrywaidd, ar y dŵr ac fe welwyd dwy iâr y dŵr i’w gweld ym mhysg y cyrs ar ymyl yr ynys. Ym mhellach ymlaen roedd 9 hwyaden wyllt ifanc wedi eu leinio ar foncyff yn y dŵr – doeddwn heb weld cywion hwyaid ar ein teithiau blaenorol, ond roedd ymwelwyr a gwirfoddolwyr wedi eu gweld. Tra roeddwn yn eu rhifo, cerddodd crëyr glas i mewn i’r golwg, fel pe bai wedi ei lwyfannu! Ychydig yn ddiweddarach, wrth i ni gerdded lawr y llifddol, fe welwyd ail grëyr wrth ymyl yr ynys.

Roeddwn yn gallu clywed pyliau o gân y dryw o’r llwyni. Ar y ddaear, roedd blodau’r menyn i nawr yn bennau had pigog, ym mhysg y gweunwelltydd a oedd yn eu blodau. Roedd  jac y neidiwr ar hyd ochrau’r pwll yn dechrau blodeuo, gan denu cachgi-bwm. Roedd ieir bach yr hâf yn mwy amlwg mis yma – fe welwyd trilliw bach, mantell garpiog a gweirlöyn y ddôl. Welwyd cipolwg o ieir bach yr haf eraill, gydag adenydd tywyll a fflachiau o goch, ond nid oeddwn yn medru eu gweld yn ddigon agos na’n ddigon clir i’w hadnabod – efallai mai mantell y paun neu ragor o drilliw bach oeddent?

Gwelwyd sawl mursen glas cyffredin llachar mewn gwahanol safleoedd o gwmpas y parc.

Roedd alarch dof ar ben pellaf y pwll ac fe welwyd siglen fraith ar ochr y pwll. Ar yr ymylon, roedd erwain yn dechrau blodeuo, yng nghyd a melyswellt y gamlas, y dinboeth yn ymddangos ar y mannau mwdlyd, a’r blodau cain, gwyn  friwydd y gors. Ar y banciau o fwd yng nghanol y pwll, roedd tyrrau o lysiau’r milwr coch. Wrth fonyn y clawdd roedd ysgall y maes, marchrawnen ganghennog, yng nghyd a phorfeydd a chorsydd eraill anadnabyddus. Gwelwyd gwas y neidr yn hedfan dros y dŵr, a nifer o bryfed eraill gan gynnwys cleren las. Yn y clawdd, welwyd sawl titw mawr, dau ditw tomos las a ji-binc benyw. Welwyd pedair ysgythain yn hedfan uwchben, yng nghyd a dwy wylan a bwncath.

Ymhellach i mewn i’r Waun Fawr, roedd y gwter lle’r oedd y penbyliaid a’r gelod mis diwethaf wedi sychu erbyn hyn. Roedd darn mawr o ddail arian yn dechrau blodeuo, ac roedd ychydig o daglys y perthi yng nghanol y porfeydd hirach. Ar hyd y talarau, gwelwyd llydan y ffordd, glesyn y coed a million gwyn i’w gweld yn y borfa fer.  Ar y pwynt yma, fe wnaeth hi ddechrau pistyllo’r glaw ac wrth i ni gysgodi o dan gastanwydden y meirch, fe sylwyd ar rosyn gwyllt gwyn yn y clawdd, wedi ei orchuddio gyda blodau gwyn, a oedd wedi denu pryf hofran. Ar y pen yma o’r Waun Fawr, roedd ardaloedd o gribellau melyn – cafodd hwn ei hau dwy flynedd yn ôl, er mwyn ceisio atal y porfeydd cynhyrchiol er mwyn rhoi cyfle i ragor o flodau gwyllt sefydlu eu hun. Roedd hwn ddim i’w weld i fod yn llwyddiannus i ddechrau, ond efallai bydd yr ardaloedd newydd yma yn lledu a bydd y blodau yn ffynnu wrth i’r amser fynd yn ei flaen?

Wrth i ni gerdded nôl tuag at y parc a’r haha, fe ymddangosodd haid o wenoliaid y bondo, ac fe arhoson ni i’w gwylio yn plymio dros y cae ar ôl y glaw, gan fwydo ar y pryfaid. Hefyd, fe welsom beneuryn ar goesyn dail tafol wedi bolltio.

Wrth ymyl yr haha, roedd y tyfiant llawer yn uwch ag yn fwy trwchus nag mis yn ôl, cymaint yn fwy, bod yr haha wedi ei orchuddio o’r golwg yn gyfan gwbl o’r ddwy ochr. Roedd rhai o’r planhigion a oedd yn tyfu yma yn cynnwys gwahanol gorsydd yn ardaloedd llaith, sgorpionllys gwyllt, creulys, a blodau melyn sydd a sawl rhywogaeth debyg, fel heboglys, barf y gwalch, melynydd ayb – mae angen eu harchwilio’n fanwl gyda llawlyfr blodau gwyllt da er mwyn eu hadnabod yn gywir!

 

 

 

Mis Mai 2023

Cynhaliwyd Taith Nodi Bywyd Gwyllt mis Mai ar ddydd Mawrth 16eg o Fai am 2yp. Mis yma, fe wnaeth ychydig mwy o aelodau o’r cyhoedd ymuno gyda ni a oedd yn galonogol. Roedd y tywydd yn fwyn ac yn heulog, gan deimlo’n dwym yn yr haul ond yn oerach yn y cysgod.

Roedd yr Ardd Jenkinson yn edrych yn flodeuog iawn yn yr adran addurniadol, ond y borderi blodau gwyllt y dolydd sy du ôl i’r gwelyau ffurfiol oedd ein ffocws. Roeddent wedi tyfu llawer ers mis diwethaf, gyda phorfeydd a blodau gwyllt yn eu blodau, gan gynnwys llygaid llo a charpiog y gors. Roedd tu blaen y border wedi ei blannu gyda glesyn y coed pêr, gyda’r blodau porffor yn denu sawl gwenynen mêl. Hefyd, fe welwyd sawl mursen glas llachar yn hofran ym mhysg y blodau.

Wrth symud i mewn i’r ardal a goedir, roedd yn amlwg yn syth fod y coed bron i gyd yn eu dail. Roedd y rhain yn cynnwys y cyll, pisgwydd, sycamorwydd a’r ffawydd – gyda’r ffawydd copr yn edrych yn fendigedig yn yr heulwen – dim ond yr onnen aeddfed oedd tu ôl a’i. Ar y ddaear, welwyd clychau’r gog, y coesgoch a briwydd bêr. Yn anffodus, roeddwn wedi colli prif sioe clychau’r gog, gan fod rhan fwyaf ohonynt wedi mynd dros eu gorau. Gwaetha’r modd, roedd nifer helaeth o glychau’r gog yn edrych fel croesryw o glychau’r gog frodorol a chlychau’r gog Sbaeneg, sydd yn rhywogaeth ymledol. Gellir gweld y gwahaniaeth rhwng y ddau trwy siâp y blodyn a lliw’r paill. Mae gan glychau’r gog frodorol goesyn blodau crwm, gyda chlychau glas dwfn, tiwbaidd yn hongian i lawr un ochr. Mae’r paill yn wyn hufennog, gwelw. Mae gan glychau’r gog Sbaeneg flodau sydd yn fwy agored o amgylch y coesyn ac y maent yn las mwy golau neu binc, ac y mae’r paill yn las neu’n wyrdd. Mae hybrid yn dangos amrywiaeth o’r ddwy ffurf.

O fewn ardal glir o’r coedir gwelwyd nifer o lasbrennau onnen a sycamorwydd yn dod trwyddo. Roedd hefyd tyfiant newydd ar goeden celyn – roeddwn wedi meddwl fod y goeden wedi marw ond y mae wedi adfywio ac y mae’n egini drosodd. Roedd tipyn llai o adar i’w gweld. Clywyd adar yn canu yn y coed, yn enwedig y fwyalchen, ac fe welwyd mwyalchen benyw yn twrio yn y dail ar y llawr, yng nghyd a robin a siffsaff. Ni fedrwyd adnabod yr adar arall a oedd yn canu. Yn agosach i ochr y pwll, wrth ymyl y coedir, roedd y ddraenen wen yn ei flodau, fe sylwyd ar flodau bach melyn y mapgoll ar ochr y banc wrth ymyl y llwybr ac ar bigau’r bysedd cŵn  a oedd bron a blodeuo. Roedd y rhan yma o’r llwybr yn llawn o hadau cotymog yr helygen yn arnofio yn yr awyr.

Wrth groesi’r bont i’r Waun Fawr, roeddwn wedi syfrdanu ar gymaint oedd y cae wedi newid dros y mis diwethaf, o dalpau o borfa wyrdd i fôr o borfeydd yn eu blodau a blodau ymenyn llachar ym mhob man. Wrth edrych ar draws y pwll, fe welwyd haid fach o hwyaid gwyllt ar y dŵr ac iâr y dŵr yng nghanol y cyrs. Roedd hefyd nifer o ddail lili’r dŵr wedi ymddangos ar wyneb y dŵr ers mis diwethaf. Ymhellach ymlaen fe welwyd crëyr glas yn sefyll yn y dŵr, ac yna yn cymryd i ffwrdd a hedfan tuag ben arall y pwll – golygfa fendigedig! Fe glywyd adar eraill yn canu yn y llwyni, gan gynnwys titw tomos las a phioden. Edrychon ni yn y gwter lle welwyd grifft nol ym mis Mawrth. I ddechrau oedd hi ddim i weld fod llawer yn digwydd yno, tan i ni weld symudiad, a drodd allan i fod yn benbyliaid yn gwingo! Wrth i ni eu gwylio, fe welwyd gele yn cropian ar draws y mwd wrth ochr y gwter.

Wrth ymyl y llwybr o amgylch y cae roedd ambell i ardal o blanhigion yn eu blodau, gan gynnwys llyriad, neu ddail cryman a meillion coch, gyda’r meillion yn denu cachgi bŵm mawr, a gorthyfail ag erwain, yn enwedig wrth ymyl yr ha-ha. Ymhellach i mewn, roedd ardaloedd o surain y cŵn yn blodeuo yng nghanol y porfeydd. Roedd cornel isaf y cae yn llawn dynnent, felly roedd hi’n amhosib mynd draw at y nant lle welwyd y sildynnod mis diwethaf. Roedd castanau yn llawn eu dail a’i blodau mis yma – newid mawr mewn ychydig wythnosau!

Wrth symud i mewn i’r ardd furiog, roeddwn eto wedi ein taro gan dyfiant cyflym nifer o’r planhigion, y rhai gwyllt a’r rhai garddwrol, ers mis diwethaf. Roedd yr ysgawen yn dechrau blodeuo, yn enwedig ar ochr y goeden a oedd yn cael mwyaf haul. Welwyd mwy o weithgaredd gan y pryfed yma hefyd, gyda cardwenyn, nifer o wahanol fath o glêr, pryfed hofran ag ambell i olwg o ieir bach yr haf bach, gwyn a oedd yn rhy bell i ffwrdd i’w hadnabod yn iawn, ond yn debygol i fod y gwynion blaen oren a welwyd ym mis Ebrill. Wrth i ni sylwi ar rywbeth arall, cawsom ein dychryn wrth weld pryfedyn mawr iawn (o leia 3cm o hyd) o’n blaenau, gyda thoracs coch ac abdomen melyn. Roedd ddim syniad gyda ni beth oedd ef, ond ar ôl ymchwilio’n hwyrach, rydym bron yn sicr mae brenhines cacynen meirch ydoedd!

Roedd llawer o weithgaredd o amgylch y cychod  gwenyn, ac fe welwyd nifer fawr o wenyn mel o amgylch y parc, yn brysur ymhlith y blodau yn y gerddi ffurfiol ac yn yr ardaloedd gwyllt. Tra oeddwn yn ardal y cychod gwenyn, sylwyd ar ditw mawr yn archwilio tyllau yn y waliau, a rhwng y llwyni, fe welwyd gwyfyn bach (tua 2cm) gwyn pur gydag ysgwyddau blewog, ond yn anffodus, heb arbenigwr wrth law, roeddwn methu ag enwi’r rhywogaeth.

Yn gyffredinol yr hyn ag oedd mwyaf trawiadol am y mis yma oedd cymaint oedd y coed a’r llifddol wedi newid – cymaint o dyfiant cyflym mewn ychydig wythnosau yn paratoi ar gyfer yr haf.

Debbie Rose Lewis – Gwirfoddolwr

 

Mis Ebrill 2023

Fe gynhaliwyd Taith Nodi Bywyd Gwyllt mis Ebrill ar ddydd Mawrth 18fed o Ebrill am 2 o’r gloch y prynhawn gyda 2 wirfoddolwr, un aelod o staff ag un aelod o’r cyhoedd yn bresennol. Roedd hi’n brynhawn heulog, braf gydag awel ffres, ac yr oedd yn teimlo fel bo’r gwanwyn wedi cyrraedd o’r diwedd.

Yn yr Ardd Jenkinson, roedd yr arddangosfa ysplenydd o diwlipau ‘Adenydd Tân’ yn dwyn y sioe, ond o amgylch yr ymylon, yn yr ardaloedd mwy gwyllt, roedd pen y neidr yn blodeuo rhwng y borfa ac fe welwyd sawl cachgi bŵm ar flodau llysiau’r ysgyfaint wrth ymylon yr ardd.

Wrth ddilyn y llwybr tuag at yr ardal coedir, roedd dant y llew yn eu blodau wrth ymyl y coedir ac yn denu sawl cachi bŵm a gwybed hofran  – pryfed a oedd yn absennol ym mis Mawrth. Ymhellach ymlaen ar y llwybr, roedd nifer rhagor o blanhigion yn dechrau blodeuo, gan gynnwys blodyn y gog, y coesgoch, fioled, pidyn y gog, blodau’r neidr ac ambell i glwstwr mawr o flodau’r gwynt. Roedd llygaid y dydd a blodau Ebrill a welwyd mis diwethaf dal yn eu blodau.

Roedd galwadau titw tomos las a thitw mawr i’w clywed yn y coed wrth ein pennau. Clywyd dryw yn canu ac yna fe’i gwelwyd ef yn hedfan ar draws y llwybr i mewn i’r prysgwydd cyfagos. Clywyd nifer o adar eraill yn canu wrth i ni fynd yn ein blaenau, gan gynnwys siff-saff a ji-binc yn canu uwch ein pennau. Clywyd galwad a oedd yn swnio’n debyg i fochyn cwta, ag fe’i nodwyd fel delor y cnau gan un o’n harbenigwyr, ac ar ôl clywed yr alwad, gwnaethom weld aderyn bach, llwyd/glas a phinc ar goeden ffawydd cyfagos.

Mewn ardal lle’r oedd llawryfoedd wedi cael eu torri nôl, fe welwyd ceiliog y rhedyn yn eistedd ar foncyff. Ym mhellach i fyny’r llethr, lle’r oedd sudd yn diferu allan o’r boncyff, roedd hwn wedi cael ei golyneiddio gan lysnafedd oren a melyn. Roedd y ddraenen ddu wedi eu gorchuddio mewn blodau gwyn ac roedd y ceirios gwyllt sy’n gorhongian yr ha-ha wrth y bont hefyd yn ei blodau.

Fe welwyd sawl hwyaden wyllt ar y pwll, yng nghyd a phâr o wyddau Canada ac iâr y dŵr, ac wrth yr ymyl roedd clystyrau o flodau’r gwynt a llygaid Ebrill dal yn eu blodau, yng nghyd a blodau’r gog. Hefyd rhywbeth sydd yn cael llai o groeso yw’r carped o hadblanhigion jac y neidiwr, gan ei fod yn  blanhigyn ymledol anfrodorol, sy’n anodd i gadw dan reolaeth ac y mae’n cystadlu’n well nag planhigion brodorol yn yr ardaloedd lle mae’n tyfu. Yn yr awyr wrth ein pennau, welwyd dau fwncath a dau farcud coch.

Roedd y blagur ar ddwy goeden fawr Y Waun Fawr yn dechrau ymagor, yn enwedig castanwydden y meirch. Ym mhellach ymlaen ar y cae fe wnaethom edrych yn y gwter i weld os oedd y grifft a welwyd mis diwethaf wedi datblygu i mewn i benbyliaid neu’n benbyliaid gyda choesau, ond nid oeddwn yn medru gweld unrhyw beth yn y dŵr llwyd. Yn y nant sydd yn rhedeg wrth ffin isaf y cae, welwyd rhianedd y dŵr ar yr arwyneb ac yna haig o bilcod yn y dŵr. Wrth gerdded nôl trwy’r cae tuag at y parc, fe welwyd nifer o infertebrata, gan gynnwys corryn bach du a chwilen fach sgleiniog aur a gwyrdd – chwilen tafol mwy na thebyg, gan fod nifer o ddail tafol yn tyfu’n gyfagos.

Cawsom gyfle i fynd i mewn i’r Ardd Furiog heddiw, ac yn yr ymylon cysgodlyd roedd sgorpion llys y mynydd, porpin pinc (yn bosib wedi ei gynefino o ddail salad a oedd wedi tyfu yno yn y gorffennol?) a llysiau’r gwrid mewn blodyn yn eu digonedd. Roedd y blodau glas llachar o’r llysiau’r gwrid yn ddeniadol iawn i’r pryfed – pryfed hofran a chwpwl o wenyn mel o’r cychod yn y parc. Welsom ychydig o beneurynod yn yr ardd furiog a phâr o fwyalchod a oedd yn edrych fel eu bod yn nythu mewn prysgwydd mawr wrth ochr y wal. Hefyd, fe welwyd ein hiâr fach yr haf cyntaf o’r tymor – gwyn blaen oren gwrywaidd – gwyn yn bennaf, gyda blaenau adain oren lachar digamsyniol (mae gan y fenyw blaenau adain du).

Yn olaf, ar y ffordd yn ôl i’r dderbynfa, fe welwyd dwy siani lwyd y gwrych ar y domen goed tu allan i’r ardd furiog ac fe glywyd nifer o adar y to yn agos i’r adeiladau.

Welwyd llawer fwy o fywyd gwyllt mis yma: coed yn dechrau gwyrddio, blodau gwyllt yn blodeuo, planhigion eraill yn tyfu deiliant gwyrddlas yn paratoi i flodeuo a llawer mwy o bryfed yn dechrau ymddangos. Mae’r gwanwyn wedi dod!

Debbie Rose Lewis – Gwirfoddolwraig

 

Mis Mawrth 2023

Cynhaliwyd taith misol nodi bywyd gwyllt mis Mawrth ar ddydd Mawrth 21ain am 2yp. Roedd hi’n brynhawn llwydedd gyda gwynt cryf. Roedd ardal yr Ardd Jenkinson yn dangos fod y gwanwyn yn dod yn ei flaen, gyda cennin Pedr, briallu a hylithr yn awr yn eu blodau.

Roedd y lawntiau wrth ymyl y coedir wedi ei dotio gyda llygaid y dydd a llygaid Ebrill, yng nghyd a chlystyrau o gennin Pedr. Dan y coed yn y coedir roedd digon o dyfiant newydd o ddynent, gwlydden a dail pidyn y gog yn tyfu’n gryf. Roedd un dant y llew yn ei flodyn – y cyntaf o lawer i ddod, ac roedd sawl clwstwr o friallu ar hyd ochr y llwybr. Fe welwyd nifer o ddail clychau’r gog yn dod i’r amlwg yng nghyd a dail bysedd cŵn a nifer o blanhigion eraill roeddwn fethu a’i hadnabod tan iddynt flodeuo. Er i ni fethu ei weld, roedd mwyalchen yn canu’n groch yn y coed uwch ein pennau. Fe welwyd a chlywyd bran yn y coed a thitw mawr yn y prysgwydd.

Mewn ardal gysgodol o’r coedir, roedd blagur y coed yn dechrau torri ar rhai o’r coed cyll, gan ddangos dail gwyrdd ffres newydd yn barod i agor. Roedd yr haid o bincod arferol ddim ar hyd y lle heddiw, ond fe welwyd ambell unigolyn ar hyd y llawr ac yn y prysgwydd.

Roedd blodau’r helyg deilgrwn sydd wrth ymyl y pwll ac ar yr ynys wedi aeddfedu o’r gwyddau bach arian a welwyd mis diwethaf i mewn i flodau a oedd yn llachar gyda phaill melyn. Roedd braidd ddim gweithgaredd i’w weld ar nag yn y dŵr heddi, gydag ond un ceiliog hwyaden wyllt i’w weld yn arnofio ar y pwll a robin yn canu yn y coed wrth ymyl y llwybr. Fe glywyd galwad cry aderyn yn dod o’r ynys, ond roeddwn fethu ei weld nag adnabod y galwad (roedd ein gwirfoddolwr sy’n arbenigwr ar adar yn methu bod gyda ni heddiw).

Roedd y Waun Fawr yn wlyb iawn ac yn fwdlyd yn dilyn y glaw trwym diweddar, felly fe cadwyd i’r rhannau sychaf. Ar ochr y ffens sy’n ffinio gyda’r pwll, fe welwyd clystyrau o eirlys a blodau’r gwynt yn blodeuo dan y coed. Roedd nifer o blanhigion eraill yn dechrau tyfu dail newydd cryf, yng nghyd a llygaid Ebrill ar y cae. Roeddwn yn medru clywed dryw bach yn canu’n grog rhwyle yn y clawdd. I fyny yn yr awyr wrth ben y pwll, cawsom gip ar beth oedd yn ôl bob tebyg yn bwncath, ond fe ddiflanodd tu nôl i’r coed cyn i ni fedru cael ail-olwg er mwyn ei hadnabod yn iawn.

Wrth fwrw nôl trwy’r parc, fe welwyd bronfraith yn bwyta aeron iorwg a chwpwl o ysgythanod yn hedfan tuag at y coed. Yn agosach i’r plas, roedd nifer o eirlys mewn clystyrau ar hyd ochr yr ha-ha ac o dan y coed. Roedd hefyd llawer mwy o ddynantt a dail tafol yn dod allan fan hyn hefyd, a hyd yn oed mwy o lygaid Ebrill a llygaid y dydd ar y lawnt, yng nghyd a thystiolaeth o waddod ar ffurf bryniau gwaddod. Welwyd mwy o flodau’r gwynt yn yr ardal prysglwyni tu ôl yr amgueddfa a misgl gwag wy aderyn mewn dau hanner ar y llawr – maint gweddol (tua 3cm o hyd), gwyn pur, mwynha thebyg wy colomen.

Diwrnod gweddol o dawel i’r bywyd gwyllt, mwy na thebyg oherwydd y gwynt cryf, ond yn sicr roedd teimlad fod y gwanwyn yn yr awyr a bod egni twf newydd yn paratoi i dorri allan!

Debbie Rose Lewis – Gwirfoddolwr Bywyd Gwyllt