Gwylio Bywyd Gwyllt – Chwefror 2022

15 Chwefror 2022, 2-3.30pm. Gyda Caroline, Suzie, Huw, Max, Ruth, a Malcolm

Diwrnod llwyd arall i’n sesiwn Chwefror – ond braf oedd cael cymaint o naturiaethwyr arbenigol yma yn y Parc heddiw! Yn ymuno â ni roedd Huw, sy’n lleol, yn wirfoddolwr garddio ac yn frwd dros fywyd gwyllt, Ruth a Malcolm, gyda chefndir ecolegol, Max (ein harbenigwr adareg o’r mis diwethaf), a Suzie (gwirfoddolwr garddio a bywyd gwyllt brwd).

Wrth gwrdd â Max yn y maes parcio gwnaeth adnabod cân y fronfraith a’r fwyalchen ar unwaith – cadwch eich llygaid a’ch clustiau ar agor am fywyd gwyllt bob amser!

Yng ngardd Jenkinson gwelsom lawer o’r cannoedd o fylbiau a blannwyd gan wirfoddolwyr garddio yn dod i fyny drwy’r ddaear noeth – crocws oren a phorffor, tiwlipau yn y borderi; cennin pedr yn y glaswellt o gwmpas y borderi crwn; dail briallu leim yn aros i flodeuo yng nghorneli’r safle. Adroddodd Huw fod gïach fach / jac wedi ei gweld ger y pwll yr wythnos diwethaf – a welsoch neu a glywsoch chi hon? Rhowch wybod i ni!

Ar y ffordd i’r Ardd Goetir gwelsom domenni twrch daear a gwiwer lwyd, briallu yn blodeuo a chennin pedr yn blaguro; llin llyffant yn ymestyn dros y ddaear.

Briallu – thrum neu bin?

I’r rhai nad ydynt yn arbenigwyr yn ein plith, cyflwynwyd nodwedd hynod ddiddorol ac anarferol o’r briallu brodorol! Oeddech chi’n gwybod bod ganddo ddau fath o flodyn bron yn union yr un fath – un gyda ‘thrum’ neu ‘llygaid-thrum’ (clwstwr o gyrn melyn) a’r llall gyda ‘pin’ neu ‘llygaid-pin’ (disg werdd)? Mae’r blodau wedi’u cyfansoddi’n berffaith i alluogi pryfed fel y glöyn byw brwmstan i’w peillio – darllenwch fwy am y mathau anarferol hyn o flodau yma (yn Saesneg).

Roedd llawer o adar i’w gweld a’u clywed yn y coetir er gwaetha’r lleithder a’r llwydni – robin goch yn gwichian a’r titw tomos las, titw mawr, ji-binc, brân a cholomennod o’n cwmpas.

Wrth gyrraedd Pwll yr Esgob clywsom alwad iâr ddŵr, ond ni welsom unrhyw adar ar y pwll heddiw. Gwelsom gwte ŵyn bach ar yr helyg a’r cyll ac adnabod polytrichum  (cap neu fwsogl gwalltog) ar fonyn mawr, yn tyfu i fyny drwy’r briallu.

‘Eirlysiau diflas’

 Heddiw dysgon ni hefyd am yr eirlysiau ‘grumpy’ gan Suzie!  Ffenomenon anhysbys braidd pan fydd ambell eirlys i’w weld gyda’i ben i lawr gyda’r ddau ddot gwyrdd ar gyfer y llygaid uwchben. Bydd plant bach wrth eu bodd yn chwilio am y gemau blodeuol gaeafol hyn.

Gwelsom lygaid Ebrill yn eu blodau ar gyrion lawnt y prif barc, lle’r llynedd roeddem wrth ein bodd â llu o flodau gwyllt mewn ardaloedd a adawyd yn fwriadol heb eu torri fel rhan o’n trefn newydd, yn rheoli’r Parc ar gyfer bywyd gwyllt (a harddwch!).

Gwelwyd pâr o siglennod brith ar ymyl yr ha-ha – ac yna hedfanodd crëyr glas dros y Waun Fawr. Dysgon ni am ‘Mares Nest’ gan Ruth – y dryswch o ganghennau o gwmpas boncyff aeddfed (ai palalwyfen ydyw?) ar y llwybr gwaelod, sy’n wynebu’r ddôl, a dwedodd Huw ei fod wedi gweld gwalch glas yma rai misoedd yn ôl. Aeth mwyalchen ar draws y llwybr i chwilio am fwyd ac wrth fynedfa’r Amgueddfa, pan aethom i nôl allweddi’r ardd furiog, gwelsom fronfraith fawr a dwy golomen.

Cacennau wedi eu Llosgi!

 Y tu allan i’r ardd furiog mae pentwr o foncyffion di-nod yr olwg, – ond edrychwch yn ofalus ac fe welwch beth a elwir yn ’King Alfred’s Cakes’ ! Gan edrych fel byns bach, crwn wedi’u llosgi, mae’r ffwngau diddorol hyn yn tyfu ar bren ynn yn unig ac fe’i defnyddiwyd i gynnau tân a fflachlampau yn y gorffennol. Gyda hyn sbonciodd wiwer ar hyd wal yr ardd furiog o’r 18fed ganrif.

Yn yr ardd furiog

Y tu mewn i’r ardd furiog gwelsom sawl titw mawr a llinos eurben, robin goch, , pibydd y waun (ein cyntaf hyd yma ar y daith hon) a mefus gwyllt yn eu blodau. Yn gyffrous, gwelwyd dwy linos werdd, gwryw a benyw, yn yr hen goed afalau – cynnydd o’r un sengl a welsom fis diwethaf. Mae’r adar hyn ar y ‘rhestr goch’ o’r rhywogaethau sydd mewn perygl – felly mae’n wych gwybod eu bod wedi gwneud yr ardd furiog yn gartref iddynt! (Darllenwch fwy yn erthygl mis diwethaf am eu cyflwr a sut y gallwch chi eu helpu).

Hedfanodd bwncath ar draws y fynwent drws nesaf, a thra fuom yn sgwrsio ar ddiwedd y sesiwn cawsom y fraint o weld murmur o ddrudwy dros y cae – un bach ond wedi ei ffurfio’n berffaith – digon agos i weld eu cyrff disglair yn codi’n llu yn erbyn golygfa o ddyffryn Tywi yn y cefndir.

Am ffordd wych o dreulio cwpwl o oriau ar ddiwrnod llwydaidd – dysgu llawer wrth bobl eraill. Mae’r Parc yn llawn bywyd pan edrychwch – a gwrandewch – yn fanwl!

Ymunwch â ni!

Wedi’ch ysbrydoli i ymuno â ni’n gwylio bywyd gwyllt y tro nesaf, neu eisiau helpu i fonitro ein bywyd gwyllt? Cysylltwch trwy e-bost: enquiries@tywigateway.org.uk  neu llenwch y ffurflen gyswllt.