Ffair Blanhigion Newydd yn y Parc!

DATGANIAD I’R WASG 15-03-22

Mae’r gwanwyn wedi cyrraedd Parc yr Esgob! Atyniad ymwelwyr poblogaidd Sir Gaerfyrddin i gynnal Ffair Blanhigion newydd y Pasg hwn.

Bydd Parc a Gerddi’r Esgobion yn Abergwili yn mynd o nerth i nerth y Pasg hwn gan lansio rhaglen weithgareddau 2022 gyda Ffair Blanhigion y Gwanwyn newydd ddydd Sul 10 Ebrill, o 10 y bore tan 2 y prynhawn. Wedi’i drefnu gan Ymddiriedolaeth Drws y Dyffryn, yr elusen fach sy’n gyfrifol am adfer y Parc ac atgyweirio’r adeiladau allanol adfeiliedig, bydd y digwyddiad yn hyrwyddo’r lleoliad sydd newydd ei adfer ar gyfer ymwelwyr a’i hybu fel man allweddol yng Nghymru i ymweld ag ef, i’w fwynhau ac i ddysgu.

Gan ddathlu rhai o dyfwyr mwyaf blaenllaw Gorllewin Cymru yn cynnwys Farmyard Nurseries, West Wales Willow, Liliwen Herbs a Brynllwyd Nurseries, bydd y Ffair Blanhigion newydd yn helpu i roi Caerfyrddin ar y map twristiaeth a garddwriaethol, gan groesawu garddwyr, casglwyr  planhigion ac ymwelwyr o bob rhan o’r ardal.

Bydd yr uchafbwyntiau’n cynnwys sgwrs gan y Prif Arddwr Piers Lunt am Ardd newydd Jenkinson (11 y bore), a fydd yn trafod yr ysbrydoliaeth ar gyfer ei ddyluniad a sut mae’r plannu’n defnyddio cyltifarau treftadaeth er mwyn sicrhau’r budd mwyaf posibl i fywyd gwyllt. Bydd ymwelwyr hefyd yn gallu ymuno â thaith rad ac am ddim o’r parc gan Piers am 1 y prynhawn, gan gynnwys yr ardd furiog nad yw fel arfer ar agor i’r cyhoedd.

Dywedodd Louise Austin, Rheolwr yr Ymddiriedolaeth, “Rydym mor falch o gynnal y digwyddiad cyffrous hwn ar gyfer Caerfyrddin a’r ardal ehangach. Mae wedi bod yn brosiect enfawr i adfer y parc a’r gerddi i’w cyn-ogoniant ac rydym wrth ein bodd o weld ein holl waith caled, a gwaith caled ein gwirfoddolwyr yn dwyn ffrwyth o’r diwedd. Gan ein bod ni mor angerddol ynglŷn â chynaliadwyedd, mae dathlu tyfwyr lleol, tra’n annog mwy ohonom i arddio a thyfu ein rhai ein hunain er lles a dyfodol y blaned, yn ffordd berffaith o agor gweithgareddau’r flwyddyn.”

Ffenestr unigryw i Dreftadaeth Sir Gaerfyrddin

Amgylchyna Parc a Gerddi’r Esgobion yn Abergwili Amgueddfa Sir Gaerfyrddin, sef Palas Esgobion Tyddewi gynt – a gall ymwelwyr nawr dreulio diwrnod llawn ar y safle wrth i’r ddau atyniad i ymwelwyr gyfuno i arddangos garddwriaeth, bywyd gwyllt a threftadaeth unigryw Sir Gaerfyrddin. Gyda dwy ardd newydd, parcdir wedi’i adfer, meinciau newydd a phaneli dehongli, golygfeydd ar draws Dyffryn Tywi, rhaffau sgramblo a boncyff cydbwyso i blant, yn ogystal a3 chaffi a chanolfan ddysgu sydd ar agor yn hwyrach yn ystod y Gwanwyn, mae llawer i’w weld a’i wneud ar gyfer ymwelwyr o bob oed.

Helpwch i sicrhau bod Parc yr Esgob ar ei newydd wedd yma i aros …

Elusen fach iawn yw Ymddiriedolaeth Drws y Dyffryn ac mae angen mwy o gefnogaeth i sicrhau bod Parc yr Esgobion ar ei newydd wedd yma i aros. Cefnogwch nhw drwy ymweld, gwirfoddoli, cyfrannu, neu ledaenu’r gair am eu gwaith ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae mwy o ddigwyddiadau ar y gweill yn y parcar gyfer yr Haf, gan gynnwys ail-greu Brwydr Abergwili ar 13eg Awst a sioe boblogaidd Parc yr Esgob sy’n dychwelyd ym mis Medi. Er mwyn dysgu mwy ewch i: www.parcyresgob.org.uk

 

 

Lluniau

Er mwyn lawrlwytho’r lluniau yma a mwy ar gyfer y Datganiad hwn i’r Wasg: https://photos.app.goo.gl/Dsunas8aDh17uQZi8

 

Am luniau cyffredinol ar gyfer ymwelwyr: https://photos.app.goo.gl/PynhZjTB4un7NKsh6

 

Mae Gardd newydd Jenkinson yn y Parc yn llawn o blanhigion ar gyfer bywyd gwyllt a harddwch. ©Ymddiriedolaeth Drws y Dyffryn / Aled Llywelyn Bydd cyn Ardd Furiog yr Esgob ar agora r gyfer Ffair Blanhigion y Gwanwyn.

©Ymddiriedolaeth Drws y Dyffryn / Aled Llywelyn

 

Mae Ymddiriedolaeth Drws y Dyffryn wedi adfer y parcdir gan agor golygfeydd ar hyd Dyffryn Tywi ar gyfer ymwelwyr.

©Ymddiriedolaeth Drws y Dyffryn / Aled Llywelyn

Mae’r ffair yn cynnwys sgyrsiau rhad ac am ddim gan y Prif Arddwr Piers Lunt fydd yn sôn am yr ysbrydoliaeth ar gyfer Gardd newydd Jenkinson (yn y llun) a sut mae’r plannu’n cynnwys cyltifarau treftadaeth.

©Ymddiriedolaeth Drws y Dyffryn / Aled Llywelyn

Nodiadau i olygyddion

Ynghylch Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn

Cafodd yr Ymddiriedolaeth ei sefydlu yn 2016 i “hybu er budd y cyhoedd ym Mharc Yr Esgob a’i safle celfyddydol yn Abergwili y gadwraeth, amddiffyniad, gwelliannau a dealltwriaeth o’r amgylchedd naturiol ac adeiledig.”

Mae’r Ymddiriedolaeth yn cyflawni Prosiect Drws i’r Dyffryn Tywi ym Mharc Yr Esgob, Abergwili, sef prosiect ‘Parks for People’ gwerth £2.4m, a ariannir gan grant o £1.2m gan y Loteri Genedlaethol.

Elusen fechan yw’r Ymddiriedolaeth gyda’r hyn sy’n cyfateb i dri aelod o staff llawn amser, sy’n dibynnu ar ymroddiad gwirfoddolwyr a chefnogwyr i barhau â’n gwaith.

I ddarganfod mwy am ein gwaith, ewch at:  www.parcyresgob.org.uk

I roi rhodd misol i’r Ymddiriedolaeth, ewch at: https://localgiving.org/charity/the-tywi-gateway-trust/

Neu dilynwch ni ar Facebook – Trydar – Instagram – YouTube @ParcyrEsgob

Gwybodaeth bellach

Am wybodaeth bellach, lluniau a chyfweliadau, cysylltwch â Louise Austin (Rheolydd Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn) ar 07399 265237 neu e-bost: louiseaustin@tywigateway.org.uk

Datganiadau i’r Wasg

https://parcyresgob.org.uk/cy/category/press-news/gwasg/