enquiries@tywigateway.org.uk Parc a Gerddi yr Esgob, Abergwili, Sir Caerfyrddin SA31 2JG

Esgobion Abergwili

Mae hanes Esgobion Abergwili’n hynod ddiddorol – ac yn deillio’n ôl dros 700 mlynedd i gyfnod sefydlu coleg eglwysig gan yr Esgob Thomas Bek ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg. Coleg Bek fyddai’n troi’n Balas yr Esgob yn y pen draw yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg, pan ddaeth un Esgob ar ôl y llall yn ffigyrau amlwg yn niwylliant a hanes Cymru a’r DU, yn cynnwys dau gyn esgob a fu mewn anghydfod ag arweinwyr y wlad ac a gafodd eu dienyddio, un ohonyn nhw am wladfradwriaeth! Yn yr erthygl hon, byddwn yn ystyried rhai o’r straeon difyr sy’n sôn am Esgobion Abergwili.

42 o Esgobion yn Abergwili

Rhwng i Abergwili ddod yn gartref i Balas yr Esgobion a’c adeiladu carteref newydd yr Esgob yn yr 1970’0u cynnar, cafwyd pedwar deg dau o Esgobion ar Dyddewi, ond dros y canrifoedd, nid yw pob un wedi dewis byw yno. Mae straeon rhai o’r esgobion mwyaf enwog, drwg-enwog a diddorol yn cael eu holrhain isod.

William Barlow, Esgob Tyddewi 1536 – 1548

Dyma frawd Awstinaidd o Norfolk a gododd i fod yn Esgob ar bedair esgobaeth – Llanelwy, Tyddewi, Caerfaddon a Wells, a Chichester.

Fel diwygiwr Protestannaidd, roedd ynghlwm â Diddymu’r Mynachlogydd dan Harri VIII ac roedd yn aelod o’r llys yn ymwneud ag Anne Boleyn. Pan ddaeth y Mari babyddol yn frenhines, ffodd i’r Almaen a Gwlad Pwyl i ddianc achos o erlyniad am ei ffydd cyn dychwelyd adref dan deyrnasiad Elisabeth I.

O deimlo bod Tyddewi’n rhy anghysbell, symudodd yr Esgob Barlow Balas yr Esgob i Abergwili.

Robert Ferrar, Esgob Tyddewi 1549 – 1554

Diwygiwr Protestannaidd arall oedd Ferrar, a benodwyd yn Esgob Tyddewi gan Edward VI. Fodd bynnag, nid oedd yn boblogaidd gyda’r canoniaid yn Nhyddewi ac fe ddygon nhw gyhuddiadau yn ei erbyn. Tra’r oedd yn Llundain i amddiffyn ei hun, daeth y Frenhines Fari babyddol i deyrnasu ac fe’i hanfonwyd i’r carchar. Cafodd ei ddiswyddo’n Esgob ym 1554 ac fe’i llosgwyd wrth y stanc yn Sgwâr y Farchnad (Sgwâr Nott erbyn hyn) yng Nghaerfyrddin ar 30 Mawrth 1555.

Ym 1970, cyhoeddodd y bardd llawryfog, Ted Hughes, oedd yn perthyn i’r Esgob Ferrar gerdd o’r enw The Martyrdom of Bishop Ferrar’.

foxe289
Robert Ferrar Esgob Tyddewi 1549 – 1554

Richard Davies, Esgob Tyddewi 1561 -1581

Fel esgob ac ysgolhaig Protestannaidd, chwiliodd am loches yng Ngenefa yn ystod teyrnasiad y Frenhines Fari babyddol. Dychwelodd i Brydain ar ôl i Elisabeth gael ei choroni, gan ddod yn Esgob ar Lanelwy yng ngogledd Cymru ym 1560.

Pan ddaeth yn Esgob ar Dyddewi ym 1561, trodd y palas yn gartref i’r Dadeni yng Nghymru. Daeth arlunwyr, awduron a beirdd i Abergwili gan gynnwys William Salesbury, sef prif ysgolhaig Cymraeg y Dadeni. Wrth aros yn Abergwili ac yn gweithio gyda’r Esgob Davies, lluniodd y cyfieithiadau Cymraeg cyntaf o’r Testament Newydd a’r Llyfr Gweddi Gyffredin.

Yn oddeutu 1572, cymerodd yr Esgob Davies ran mewn diwygio’r “Bishop’s Bible” 1568, sef y cyfieithiad Saesneg swyddogol o’r Beibl. Gweithiodd ar Lyfr Deuteronomium, ac ar Ail Lyfr Samuel. Daeth y Beibl hwn yn sail i Feibl enwog Brenin Iago I, sy’n parhau i gael ei ystyried fel campwaith yr iaith Saesneg heddiw.

Bu farw ym mis Tachwedd 1581, ac fe’i claddwyd yn eglwys Abergwili.

William Laud, Esgob Tyddewi 1621 – 1627

Yn esgob dan Iago I, roedd Laud yn gyfaill agos i ffefryn y brenin, sef George Villiers, Dug Birmingham. Tra’r oedd yn esgob, dim ond dwywaith yr ymwelodd â’r palas gan gysegru ei ymweliad olaf i’r hyn sy’n parhau i gael ei adnabod yn Gapel Laud.

Gan ei fod yn ymhél yn helaeth â gwleidyddiaeth llys dan Siarl I, daeth yn Esgob Llundain ac yna’n Archesgob Caergaint. Roedd yn amhoblogaidd, ac yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr ym 1640, cyhuddodd y Senedd ef o frad a chafodd ei garcharu yn Nhŵr Llundain. Cafodd ei roi ar brawf ym 1644 a thorrwyd ei ben yn y Gwynfryn yn Llundain ar 19 Ionawr 1645.

EPSON MFP image
William Laud, Esgob Tyddewi 1621 – 1627

Roedd Laud yn ŵr bach, rhywbeth nad oedd yn hoffi bod pobl yn ei grybwyll. Mewn chwarae ar eiriau enwog gan Archibald Armstrong, sef digrifwas llys y Brenin Siarl, a oedd yn tynnu sylw at ei faint a’i amhoblogrwydd, dywedodd: ‘give praise to the Lord, and little Laud to the devil’.

Thomas Watson, Esgob Tyddewi 1687 – 1699

Yn fab i forwr o Hull, roedd Watson yn cefnogi Brenin Iago II. Roedd yn gwrthwynebu Chwyldro Gogoneddus 1688 a welodd Iago’n ffoi Prydain a William yn dod yn frenin. Fodd bynnag, nid ei wleidyddiaeth a achosodd helynt iddo. Cafodd ei wahardd dros dro ym 1694 a’i ddiswyddo’n derfynol fel Esgob Tyddewi ym 1699 am werthu cymwynasau a rolau’r eglwys.

Yr Arglwydd George Murray, Esgob Tyddewi 1801 -1803

Er mai dim ond am gyfnod byr y bu yn ei swydd, dan ei reolaeth ef newidiodd y palas a’r tir cryn dipyn. Ailgynlluniwyd y palas ar ffurf Gothig a dywedwyd ‘dan ei reolaeth, daethpwyd â’r tir i gyflwr amaethu a harddwch uchel, ond yn syml o ran chwaeth…’

Murray
Map o’r Ystâd 1811

Cyn dod yn esgob, roedd yn enwog am ddatblygu telegraff optegol cyntaf Prydain. Llwyddiant ei gynllun a’i harweiniodd at gael ei gyflwyno i Frenin Siôr III a’i benodiad yn esgob.

Ym 1795, cynigiodd system i Forlys Prydain a fyddai’n helpu lledu newyddion am unrhyw oresgyniad neu ymosodiad posibl gan y Ffrainc Chwyldroadol. Cymerodd y neges gyntaf a anfonwyd rhwng gorsafoedd yn Llundain a Deal ar arfordir Caint chwe deg eiliad yn unig i deithio’r 82 milltir. Datblygwyd dros chwe deg o safleoedd yn y pen draw ond caeodd y Morlys nhw i gyd i lawr ym 1816 yn dilyn diwedd Rhyfel Napoleon.

Bu farw Murray ym 1803 tra’r oedd yn dal i fod yn ei swydd. Daliodd oerfel wrth aros am ei gerbyd y tu allan i Dŷ’r Arglwyddi ac ni wellodd ohono.

John Jenkinson, Esgob Tyddewi 1825 – 1840

Dim ond rhai blynyddoedd ar ôl y gwaith ailadeiladu gan Esgob Murray, pan ddaeth John Jenkinson yn esgob ym 1825, roedd y palas bron yn adfail unwaith eto. Gwariodd yr Esgob Jenkinson ei arian ei hun i ailadeiladu’r adeilad bron yn gyfan gwbl ar Ffurf Elisabethaidd. Ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau, disgrifiwyd y palas fel ‘plasty uchelwrol gydag agwedd Elisabethaidd hardd’, ‘yn gain ac yn helaeth’.

Wrth i’r gwaith gael ei wneud ar y palas, ail-fodelodd y tir hefyd ar ffurf pictiwrésg gyda golygfannau trwy’r coed ar draws ac i fyny’r dyffryn. Yn y 1840au, nododd awdur iddo ‘ychwanegu tipyn at brydferthwch y parc difyrion trwy welliannau call’.

Jenkinson
Map yr Ystâd 1843

Tra’r oedd yn esgob, cynhaliodd Jenkinson ysgol yng Nghaerfyrddin ar gyfer plant teuluoedd tlawd. Bu farw yn Great Malvern ac mae wedi’i gladdu yn Eglwys Gadeiriol Caerwrangon.

Connop Thirlwall, Esgob Tyddewi 1840 – 1874

Fel un o’r esgobion a wasanaethodd hwyaf yn ogystal â bod yn ysgolhaig eglwysig, roedd yn hanesydd enwog a ysgrifennodd ar Hanes Rhufeinig ac yn arbennig Hanes Groegaidd. Ei waith enwocaf oedd yr wyth cyfrol ar History of Greece a gyhoeddwyd rhwng 1835 ac 1847.

Er iddo gael ei eni yn Llundain, dysgodd Gymraeg yn gyflym er mwyn iddo allu pregethu i bobl ei esgobaeth yn eu mamiaith. Cafodd ei ddisgrifio gan yr athronydd a’r economegydd enwog, John Stuart Mill, fel y siaradwr gorau iddo ei glywed erioed.

Ymddiswyddodd fel esgob ym 1874, gan ymddeol i fyw yng Nghaerfaddon lle bu farw flwyddyn yn ddiweddarach. Mae wedi’i gladdu yng Nghornel y Beirdd yn Abaty San Steffan.