Plannu gerddi newydd cyfeillgar at fywyd gwyllt ym Mharc Yr Esgob, Abergwili, Sir Gâr

Mae draenog gyda phigau brown a gwyn yn cerdded ar y ddaear wedi'i gorchuddio â dail, brigau a phlanhigion bach.
© Emma Reardon

DATGANIAD I’R WASG 05-03-21

Plannu gerddi newydd cyfeillgar at fywyd gwyllt ym Mharc Yr Esgob, Abergwili, Sir Gâr

Bydd dwy ardd newydd yn ymddangos ym Mharc yr Esgob, Abergwili fis yma, diolch i grant o £22,900 gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ‘Lleoedd Lleol ar Gyfer Natur’.  Mae’r parc yn amgylchynu hen balas Esgobion Tyddewi, sydd nawr yn gartref i Amgueddfa Sir Gaerfyrddin, a mae’r gerddi newydd yn rhan o adferiad a chadwraeth helaethach y safle sy’n cynnwys trawsnewid adeiladau allanol adfeiliedig i greu caffi newydd a chanolfan dysgu a dehongli. Defnyddir planhigion o amrywogaethau hanesyddol i greu arddangosfeydd plannu deniadol i hybu bywyd gwyllt, yn ogystal â darparu cyfleoedd addysgu a gweithgareddau ar gyfer ymwelwyr a phlant. Rydym hefyd yn creu adnoddau addysgiadol a chynlluniau gwersi yn seiliedig ar osod a phlannu’r gerddi, mewn partneriaeth ac ysgolion cynradd Nantgaredig ac Abergwili.

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru:

“Natur yw ein ffurf hynaf o dreftadaeth ac y mae’n bwysicach nag erioed i edrych ar ôl natur ac i helpu pobl ddeall ei bwysigrwydd. Mae natur hefyd yn gallu hybu ein hwyliau; gostwng straen; helpu ni i ymlacio; gwella ein hiechyd corfforol a meddyliol a dylai fod ar gael i bawb.

Mae ariannu natur a thirwedd yn un o flaenoriaethau ariannu strategol allweddol Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru ac yr ydym yn hapus iawn i weithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru i roi’r grant ‘Lleoedd Lleol ar Gyfer Natur’ i Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn fel y gall pobl yr ardal ddysgu mwy am, ac elwa, o’i threftadaeth naturiol.”

Gardd newydd yr Esgob JenkinsonSafle adeiladu gyda llwybr crwn ac ymylon metel yn cael eu gosod yn y blaendir, a strwythur wedi'i adeiladu'n rhannol gyda sgaffaldiau, wedi'i amgylchynu gan goed yn y cefndir.

Mae’r fynedfa sydd yn croesawu ymwelwyr ar hyn o bryd yn cael ei drawsnewid i ddarparu gardd o ddiddordeb gydol y flwyddyn, ac ysbrydolwyd y dyluniad gan gyfnod yr Esgob John Jenkinson (1825 i 1840). Mewn ffurf cylch, bydd y plannu deniadol yn cynnwys gwyntyllau o goed afalau a gellyg treftadol, ac amrywiaeth o blanhigion a pherlysiau a ddefnyddiwyd mewn meddyginiaeth a choginio yng nghanol yr 19eg ganrif. Cynlluniwyd yr ardd gyda chyfuniad o blanhigion cynhenid ac addurnol a fydd yn darparu neithdar a phaill i bryfed, gan adlewyrchu amcanion cynaladwy’r prosiect a hanes cyfoethog y safle. Bydd yr ardd yn creu cyswllt diriaethol i hanes a threftadaeth y safle, gan ennyn diddordeb ymwelwyr, boed hen neu ifanc.

Ardal Coetir Newydd

Mae dau ddyn yn penlinio ar y ddaear yn yr awyr agored, yn gwenu wrth arddio. Mae un yn dal gwreiddiau, mae'r llall yn gorffwys dwylo ar ei ben-gliniau. Mae offer garddio, pridd, a berfa i'w gweld, gyda choed a boncyffion yn y cefndir.
Dan a Ossian o’r prosiect Dyffryn Tywi.

Saif yr ardd goedwigol newydd wrth ymyl prif goetir Parc Yr Esgob, ac fe’i hagorwyd gyntaf 5 mlynedd yn ôl pan dorrwyd ffawydden aeddfed lawr a oedd yn ansefydlog oherwydd ffwng. Mae’r boncyff nawr yn creu ardal agored, gysgodol mewn chwaraefa naturiol, gyda golygfa at orlifdir y waun, lle bydd ymwelwyr yn gallu eistedd i fwynhau’r planiadau gyda Dyffryn Tywi fel cefndir, a mwynhau’r buddiannau llesiant  o fod mewn coetir. Bydd llwyni addurnol newydd, coed bychain a bylbiau blodau’r gwanwyn ynghyd â chyflwyniad bocsys adar ac ystlumod yn ychwanegu at y fflora a ffawna ac yn elwa bywyd gwyllt y goedlan.  Byddwn yn plannu yr ardd goedwigol newydd gyda chymorth dau brentis o brosiect Dyffryn Tywi, Dan ac Ossian.

Dywedodd Louise Austin, Rheolwraig yr Ymddiriedolaeth “Rydym wrth ein bodd o dderbyn y grant yma oddi wrth Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol, sy’n ein galluogi i greu gardd a choetir newydd ddeniadol newydd, gan ddefnyddio planhigion o amrywogaethau hanesyddol a fydd yn cynnal pryfed peillio a bywyd gwyllt eraill. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr i weithio gyda mwy o ysgolion lleol a grwpiau cymunedol er mwyn datblygu ystod eang o weithgareddau a deunyddiau addysgiadol ar gyfer ymwelwyr, plant a’r gymuned leol.”

Ffocws Cymunedol

Mae Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn yn awyddus i sicrhau fod y parc yn hygyrch i bawb er eu mwynhad. Bydd y prosiect yn galluogi pobl ifanc i weithio gyda Phrif Arddwr yr Ymddiriedolaeth, Piers Lunt, i ddysgu sut i baratoi, plannu a gofalu am y gerddi, gan gynnwys plannu coed afalau traddodiadol fel Tinyrwydd ac Enlli.

Mae grŵp o blant ac oedolyn yn sefyll ger porth bwaog carreg, yn edrych allan ar dirwedd niwlog, werdd gyda choed. Mae'r plant yn gwisgo siacedi lliwgar ac mae'r oedolyn yn sefyll i'r ochr, yn arsylwi'r olygfa.

Mae sefydlu’r gerddi newydd yn rhan o raglen helaethach o adnewyddu a chyfoethogi Parc Yr Esgob a reolir gan Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn, i warchod ac adfer y parc a’r gerddi yn ôl i gyfnod yr ail-ddyluniad mawr yn yr 1840’au. Mae hyn yn cynnwys gwneud yr ardd gegin furiog ddeniadol yn gynhyrchiol unwaith eto,  a gwella mynediad cyhoeddus i’r Waun Fawr gyfagos, a fydd yn cael ei rheoli i elwa cynefin y gorlifdir prin yma. Bydd y prosiect hefyd yn gwarchod Pwll Yr Esgob, ystumllyn sydd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ac adnewyddu adeiladau allanol Hen Balas yr Esgob i’w defnyddio fel canolfan addysgu a dehongli, ynghyd â chaffi, a fydd yn agor yn Hydref 2021.

 

 

Nodiadau i olygyddion

Ynghylch Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn

Cafodd yr Ymddiriedolaeth ei sefydlu yn 2016 i “hybu er budd y cyhoedd ym Mharc Yr Esgob a’i safle celfyddydol yn Abergwili y gadwraeth, amddiffyniad, gwelliannau a dealltwriaeth o’r amgylchedd naturiol ac adeiledig.”

Mae’r Ymddiriedolaeth yn cyflawni Prosiect Drws i’r Dyffryn Tywi ym Mharc Yr Esgob, Abergwili, sef prosiect ‘Parks for People’ gwerth £2.4m, a ariannir gan grant o £1.2m gan y Loteri Genedlaethol.

Elusen fechan yw’r Ymddiriedolaeth gyda’r hyn sy’n cyfateb i dri aelod o staff llawn amser, sy’n dibynnu ar ymroddiad gwirfoddolwyr a chefnogwyr i barhau â’n gwaith.

I roi rhodd misol i’r Ymddiriedolaeth, ewch at: https://localgiving.org/charity/the-tywi-gateway-trust/

I ddarganfod mwy am ein gwaith, ewch at: https://parcyresgob.org.uk/

Neu dilynwch ni ar Facebook – Trydar – Instagram – YouTube @ParcyrEsgob

Ynghylch y Grant

Bwriad cynllun grant Llywodraeth Cymru ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur’ yw galluogi cymunedau yng Nghymru i adfer a gwella byd natur. Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn darparu cyfraniad ariannol i’r cynllun ac y mae’n rheoli’r cynllun ar ran Llywodraeth Cymru.

Ynghylch Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

Defnyddiwn arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i ysbrydoli, arwain a chefnogi treftadaeth y DU i greu newid cadarnhaol a pharhaol i bobl a chymunedau, yn awr ac yn y dyfodol.

www.heritagefund.org.uk.

Dilynwch @HeritageFundUK ar Twitter, Facebook ac Instagram a defnyddiwch #CronfaTreftadaethLoteriGenedlaethol

 

Gwybodaeth bellach

Am wybodaeth bellach, lluniau a chyfweliadau, cysylltwch â Louise Austin (Rheolydd Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn) ar 07399 265237 neu e-bost: louiseaustin@tywigateway.org.uk