Blog Piers

“Mewn fel llew ac allan fel oen” medden nhw am fis Mawrth; gwir iawn am yr hanner cyntaf a gobeithio felly am yr ail hanner! Cafwyd cyfnodau o dywydd gwyllt dros yr wythnosau diwethaf, ond er gwaetha holl ymdrechion gwyntoedd cryfion, llifogydd a rhew i drechu, mae’r gwanwyn wedi egino ym Mharc yr Esgob, gan gefnu ar aeaf ddigon caled – am y tro, beth bynnag.

Mae’r blodau gwyllt a ddechreuodd ymddangos ddiwedd Ionawr yn manteisio nawr ar y dyddiau hwy, gan ymestyn eu pennau yn y gobaith o ddarganfod peillwyr cynnar sy’n fodlon herio’r tymheredd isel. Edrychwch am lygaid Ebrill, sy’n agor pan fo’r awyr yn llachar ac yn cau pan ddaw glaw, a’r briallu sy’n poeni dim am dywydd garw, gan wynebu’n siriol  popeth sydd gan yr hinsawdd ei gynnig. Roedd yr eirlysiau ychydig yn hwyrach eleni na’r llynedd, ac oherwydd eu natur darfodedig, maen’t bron a diflannu bellach. Os brysiwch, gallwch weld yr olaf ohonynt lawr ar ben yr HaHa ac wrth fôn y bisgwydden hynafol yn y Parc, yn ysgwyd eu pennau bach gwyn ymysg deiliant llwydlas.

Bydd y rhai mwyaf craff yn ein mysg wedi sylwi ar fân newidiadau yn y coed hefyd. Ebrill yw’r mis ble gwelir y tyfiant mwyaf amlwg, gyda blagur yn egino ac agor ym mhobman, ond am nawr, fe welwch nhw’n chwyddo a weithiau’n newid lliw hefyd – datbygiad sydd wastad yn creu ymdeimlad o gynnwrf a disgwyliad ynof fi. Dyma’r saib cyn i’r tymor newydd flodeuo sy’n bywiogi rhywun drwyddo.

Gwelir newidiadau ymysg bywyd gwyllt hefyd. Heb amheuaeth, mae cariad yn yr awyr ymysg yr adar. Mae rhai, megis y durtur dorchog uwchben drws fy swyddfa yn y Porthdy, eisoes yn deori wyau mewn nythoedd newydd, tra bo eraill yn dal i gasglu deunydd ac adeiladu. Gwelais wenyn cynta’r flwyddyn hefyd, yn manteisio ar wres cynyddol yr Ardd Furiog, gan ychwanegu cennin Pedr i’r basgedi paill gorlawn ar eu coesau tra’n yfed yn ddwfn o’r neithdar.

Os ydych yn treulio amser yn y Parc yn rheolaidd, fe fyddwch wedi sylwi ar y datblygiadau sylweddol dros y mis diwethaf. Mae Afan Landscapes yn ôl ar y safle yn cychwyn ar ddatblygu Gardd Jenkinson, enw sy’n talu gwrogaeth i’r Esgob a’r cynllun ffurfiol a greodd yn yr ardal honno yn yr 1830au. Mae’n ail-ddyluniad ni nid yn unig yn dynwared ei ardd gylchog, ond hefyd yn defnyddio llawer o’r planhigion a fyddai ar gael i’w arddwyr ar y pryd. Cafwyd ysbrydoliaeth yn llyfr John Claudius Loudon o 1843, sef Gwyddionadur Planhigion.

Gyda’r llaw, ymddengys fod Loudon wedi bod yn ysbrydoliaeth cyfoes i’r Esgob Jenkinson hefyd, felly rydym yn cau’r cylch mewn mwy nag un ffordd.

Wedi iddynt gwblhau’r gwaith yma, bydd Afan yn symud i ochr ddwyreiniol a deheuol yr amgueddfa, i drawsnewid y llwybr tarmac i arwyneb ‘hoggin’ newydd, gan gysylltu gyda’r darnau a welwyd y llynedd. Fe wn fod hyn yn rhywbeth mae amryw o bobol wedi bod yn disgwyl yn eiddgar amdano – dim ond ychydig o wythnosau i fynd nawr! Fel canlyniad, bydd gennym rwydwaith eang o lwybrau integreiddiedig, wedi eu hadfer a’u gwella – sydd gan mwyaf yn gallu gwrthsefyll llifogydd hefyd. Ond gobeithio ein bod wedi cefnu arnynt am gyfnod!

Diolch Caryl Thomas am lluniau hyfryd!