Trawsnewid Gardd yr Esgob Jenkinson

Bydd y fynedfa sydd yn croesawu ymwelwyr ar hyn o bryd yn cael ei drawsnewid i ddarparu gardd o ddiddordeb gydol y flwyddyn, ac ysbrydolwyd y dyluniad gan gyfnod yr Esgob John Jenkinson (1825 i 1840). Mewn ffurf cylch, bydd y plannu deniadol yn cynnwys gwyntyllau o goed afalau a gellyg treftadol, ac amrywiaeth o blanhigion a pherlysiau a ddefnyddiwyd mewn meddyginiaeth a choginio yng nghanol yr 19eg ganrif. Cynlluniwyd yr ardd gyda chyfuniad o blanhigion cynhenid ac addurnol a fydd yn darparu neithdar a phaill i bryfed, gan adlewyrchu amcanion cynaladwy’r prosiect a hanes cyfoethog y safle.

 

Saif yr ardd goedwigol newydd wrth ymyl prif goetir Parc Yr Esgob, ac fe’i hagorwyd gyntaf 5 mlynedd yn ôl pan dorrwyd ffawydden aeddfed lawr a oedd yn ansefydlog oherwydd ffwng. Mae’r boncyff nawr yn creu ardal agored, gysgodol mewn chwaraefa naturiol, gyda golygfa at orlifdir y waun, lle bydd ymwelwyr yn gallu eistedd i fwynhau’r planiadau gyda Dyffryn Tywi fel cefndir, a mwynhau’r buddiannau llesiant  o fod mewn coetir. Bydd llwyni addurnol newydd, coed bychain a bylbiau blodau’r gwanwyn ynghyd â chyflwyniad bocsys adar ac ystlumod yn ychwanegu at y fflora a ffawna ac yn elwa bywyd gwyllt y goedlan.

Darllen newyddion arall