Beth i’w Weld Nawr: Chwefror

Gyda’r gwanwyn ar ei ffordd, a’r dyddiau’n ymestyn, mae’n newyddion da i ymwelwyr a garddwyr fel ei gilydd. Cofiwch edrych allan am friallu yn y parc fis yma, sy’n dechrau blodeuo mewn gwahanol fannau, ynghyd â Llygad Ebrill bach siriol, sy’n arddangos llawer o ddail newydd ac ambell flodyn  – ar ddyddiau disglair yn unig! Gwelir dail cennin Pedr ac eirlysiau yn gwthio trwy’r carped o ddail o gwmpas y parc – mae ymyl yr ‘haha’ (y bwlch rhwng y parc a’r Waun Fawr) yn lle da i weld eirlysiau, ond gwyliwch y cwymp serth i’r ffos! Mae cynffonnau wyn bach i’w gweld ar y coed cyll bellach, a gallwch yn hawdd golli hanner awr yn gwylio’r hwyaid gwyllt ar Bwll yr Esgob; cyfle gwych i synfyfyrio os oes gennych amser!

Ar hyn o bryd, gallwn edmygu sawl codiad a machlud haul bendigedig – maen’t yn arbennig dros y Waun Fawr, gyda’r haul yn amlinellu canghennau noeth y coed aeddfed. Rydym wedi bod yn brysur hefyd – rydych yn siwr o weld Piers yn y parc yn defnyddio llif gadwyn i brysgoedio a chlirio llawer o goed llawrgeirios, i wella’r amgylchedd ar gyfer coed cynhenid a rhywogaethau fflora llawr.