Creu gerddi newydd cyfeillgar at fywyd gwyllt ym Mharc Yr Esgob, Abergwili, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol

Hawlfraint Caryl Thomas 2020 – Y Ddol Enfawr yn Mharc yr Esgobion, Abergwili

Mae Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn wedi derbyn grant o £22,900 gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ‘Lleoedd Lleol ar Gyfer Natur’ er mwyn creu dwy ardd newydd ym Mharc Yr Esgob, Abergwili, fel rhan o adferiad a chadwraeth helaethach y safle. Mae’r parc yn amgylchynu hen balas Esgobion Tyddewi, sydd nawr yn gartref i Amgueddfa Sir Gaerfyrddin,  gyda’r adeiladau allanol yn cael eu haddasu i greu caffi newydd a chanolfan dysgu a dehongli. Mi fydd y wobr yn galluogi pryniant planhigion o amrywogaethau hanesyddol er mwyn creu arddangosfeydd plannu deniadol o fudd i fywyd gwyllt, yn ogystal â darparu cyfleoedd addysgu a gweithgareddau ar gyfer ymwelwyr a phlant.

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru:

“Natur yw ein ffurf hynaf o dreftadaeth ac y mae’n bwysicach nag erioed i edrych ar ôl natur ac i helpu pobl ddeall ei bwysigrwydd. Mae natur hefyd yn gallu hybu ein hwyliau; gostwng straen; helpu ni i ymlacio; gwella ein hiechyd corfforol a meddyliol a dylai fod ar gael i bawb.

Mae ariannu natur a thirwedd yn un o flaenoriaethau ariannu strategol allweddol Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru ac yr ydym yn hapus iawn i weithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru i roi’r grant ‘Lleoedd Lleol ar Gyfer Natur’ i Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn fel y gall pobl yr ardal ddysgu mwy am, ac elwa, o’i threftadaeth naturiol.”

Bydd y fynedfa sydd yn croesawu ymwelwyr ar hyn o bryd yn cael ei drawsnewid i ddarparu gardd o ddiddordeb gydol y flwyddyn, ac ysbrydolwyd y dyluniad gan gyfnod yr Esgob John Jenkinson (1825 i 1840). Mewn ffurf cylch, bydd y plannu deniadol yn cynnwys gwyntyllau o goed afalau a gellyg treftadol, ac amrywiaeth o blanhigion a pherlysiau a ddefnyddiwyd mewn meddyginiaeth a choginio yng nghanol yr 19eg ganrif. Cynlluniwyd yr ardd gyda chyfuniad o blanhigion cynhenid ac addurnol a fydd yn darparu neithdar a phaill i bryfed, gan adlewyrchu amcanion cynaladwy’r prosiect a hanes cyfoethog y safle.

Saif yr ardd goedwigol newydd wrth ymyl prif goetir Parc Yr Esgob, ac fe’i hagorwyd gyntaf 5 mlynedd yn ôl pan dorrwyd ffawydden aeddfed lawr a oedd yn ansefydlog oherwydd ffwng. Mae’r boncyff nawr yn creu ardal agored, gysgodol mewn chwaraefa naturiol, gyda golygfa at orlifdir y waun, lle bydd ymwelwyr yn gallu eistedd i fwynhau’r planiadau gyda Dyffryn Tywi fel cefndir, a mwynhau’r buddiannau llesiant  o fod mewn coetir. Bydd llwyni addurnol newydd, coed bychain a bylbiau blodau’r gwanwyn ynghyd â chyflwyniad bocsys adar ac ystlumod yn ychwanegu at y fflora a ffawna ac yn elwa bywyd gwyllt y goedlan.

Dywedodd Louise Austin, Rheolwraig yr Ymddiriedolaeth “Rydym wrth ein bodd o dderbyn y grant yma oddi wrth Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol, a fydd yn ein galluogi i greu gardd a choetir newydd ddeniadol newydd, gan ddefnyddio planhigion o amrywogaethau hanesyddol a fydd yn cynnal pryfed peillio a bywyd gwyllt eraill. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr i weithio gydag ysgolion lleol a grwpiau cymunedol er mwyn datblygu ystod eang o weithgareddau a deunyddiau addysgiadol ar gyfer ymwelwyr, plant a’r gymuned leol.”

Mae Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn yn awyddus i sicrhau fod y parc yn hygyrch i bawb er eu mwynhad. Bydd y prosiect yn galluogi pobl ifanc i weithio gyda Phrif Arddwr yr Ymddiriedolaeth, Piers Lunt, i ddysgu sut i baratoi, plannu a gofalu am y gerddi, gan gynnwys plannu coed afalau traddodiadol fel Tinyrwydd ac Enlli.

Mae sefydlu’r gerddi newydd yn rhan o raglen helaethach o adnewyddu a chyfoethogi Parc Yr Esgob a reolir gan Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn, i warchod ac adfer y parc a’r gerddi yn ôl i gyfnod yr ail-ddyluniad mawr yn yr 1840’au. Mae hyn yn cynnwys gwneud yr ardd gegin furiog ddeniadol yn gynhyrchiol unwaith eto,  a gwella mynediad cyhoeddus i’r Waun Fawr gyfagos, a fydd yn cael ei rheoli i elwa cynefin y gorlifdir prin yma. Bydd y prosiect hefyd yn gwarchod Pwll Yr Esgob, ystumllyn sydd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ac adnewyddu adeiladau allanol Hen Balas yr Esgob i’w defnyddio fel canolfan addysgu a dehongli, ynghyd â chaffi, a fydd yn agor yn Hydref 2021.