Dau aelod newydd i’r tîm


Caroline a Ffiona gyda Piers a chydweithwyr o Amgueddfa Caerfyrddin ar daith o amgylch yr Ardd Furiog

Mae’n bleser gan Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn gyhoeddi ein bod bellach wedi penodi Swyddog Ymgysylltu a Dysgu Cymunedol. Yn wir, rydym wedi apwyntio dau aelod newydd gwych i’n tîm a fydd yn rhannu’r swydd. Dechreuodd Ffiona Jones ym mis Medi ac fe fydd Caroline Welch yn ymuno â ni ym mis Tachwedd.

Mae Ffiona Jones yn dod o gefndir amaethyddol, gan astudio amaeth yng Ngholeg Amaethyddol Cymru, Aberystwyth yn yr 1980au hwyr. Yn 2008, fe ddechreuodd astudio ym Mhrifysgol Y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin, lle enillodd ei BA Addysg Gynradd gyda SAC. Mae wedi treulio’r blynyddoedd dilynol yn gweithio yn bennaf fel athrawes gyflenwi ar draws Sir Gâr, ac ar hyn o bryd, mae hefyd yn astudio ar gyfer MA Hanes Lleol ym Mhrifysgol Y Drindod Dewi Sant.

Wedi ei magu ar fferm laeth yn ardal Cydweli, mae Ffiona yn ffermio ym Mhontargothi, Dyffryn Tywi gyda’i gwr a’i phlant mewn oed, a mae ganddynt fuches fach o wartheg Jersey pur, sydd wedi ennill nifer o wobrau. Mae’r fferm wedi bod yn y teulu ers dros gant ag ugain o flynyddoedd.

Mae Ffiona’n rhugl yn y Gymraeg ac wedi bod yn gysylltiedig â nifer o gymdeithasau a mudiadau’r ardal ers symud yno yn y 1990au, gan gynnwys Clybiau Ffermwyr Ifanc, sioeau amaethyddol a chymdeithasau bridiau gwartheg, yr Urdd, eglwys blwyf Llanegwad, ysgol Nantgaredig ac ysgol Bro Myrddin, i enwi ond rhai.

Gobaith Ffiona yw y bydd ei rôl yn ei galluogi i gyd-gysylltu popeth y mae’n dwli arno yn Nyffryn Tywi – yr ecoleg, yr hanes, y dreftadaeth a’r diwylliant, ac wrth gwrs, y bobl.