Mae Bwrdd yr Ymddiredolwyr yn falch o gyhoeddi fod Louise Austin wedi ei phenodi yn Rheolydd Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn, ac y bydd yn cychwyn ei gwaith ar Awst 20fed, 2018.
Bydd yn gweithredu fel rheolydd prosiect a deilydd cyllid ar gyfer y gwaith ail-ddatblygu cyffroes ym Mharc yr Esgob. Yn archaeolegydd proffesiynol, bu’n gweithio am sawl blwyddyn yn Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn rheoli gwahanol broseictau cyn symud i’r Gerddi Botaneg Cenedlaethol fel Swyddog Treftadaeth, i ddatblygu prosiect adfywio’r parcdir.
Cred Louise fod ei swydd newydd “yn gyfle gwych i adfer a gwarchod y parc hanesyddol a phwysig yma. Bydd hefyd o fudd i’r amgueddfa sirol, y gymuned leol yn nyffryn Tywi a’r ardal ehangach, trwy wella defnydd a mwynhad o’r safle.”
Gellir cysylltu gyda Louise drwy ebost – louiseaustin@tywigateway.org.uk

Rheolydd Newydd yr Ymddiriedolaeth
Posted: 08/08/2018 by Admin

Category: Newyddion Diweddaraf