Amser Cwestiynau i Arddwyr Bywyd Gwyllt Llwyddiannus ym Mharc yr Esgob
20/10/2026
By Admin2
Cynhaliodd Parc yr Esgob yn Abergwili Amser Cwestiynau i Arddwyr yr Hydref, gyda ffocws arbennig ar fywyd gwyllt, ar Hydref 7fed, 6yn, yng Nghegin Stacey caffi preswyl Parc yr Esgob. Aelodau’r panel oedd Laura Moss o Ganolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru, Joseph Atkin, a oedd yn Brif Arddwr yn Aberglasney, Simon Richards sy’n Brif Arddwr …
















Ymddangos yn Gardens Illustrated
Posted: 08/04/2021 by Caroline Welch
Rydym wrth ein boddau i gael ymddangos yn Gardens Illustrated y mis yma! Mae ein prosiect i adfywio Parc Yr Esgob a’r Gerddi, Abergwili, gan gynnwys ein dwy ardd newydd bendigedig, caffi ac ardal dysgu newydd i gyd dan waith – ac y mae wedi cael sylw ar dudalen 103 o’r ‘Vogue’ o gylchgronau garddio’r Ebrill yma!
Y gerddi eu dylunio gan ein Prif Arddwr, Piers Lunt, gyda TACP UK Ltd, ac y mae’r tirlunio yn cael ei wneud gan ‘Afan Group’. Rydym mor ddiolchgar iddynt ac i bawb sydd yn gwirfoddoli yn y parc a’r gerddi er mwyn ei gadw mor hyfryd.
Darllenwch mwy am y gwaith sydd yn cymryd lle yn ein datganiad i’r wasg yma.
Category: Newyddion Diweddaraf, Gwasg