Am y tro cyntaf erioed, rydym wedi gwasgu afalau treftadaeth o ardd furiog yr Esgob ei hun i greu sudd afal blasus. Ar gael tra bo cyflenwad am 20 o Mai, 4-6y.h. – y cyntaf i’r felin gaiff falu! Arian parod yn unig ar hyn o bryd.
Am y Sudd
Mae gennym 3 math o sudd ar werth – sudd afal amrywogaeth sengl o wahanol goed ym mherllan Hen Balas yr Esgob, Abergwili.
Bramley – asidedd dwfn a chyfoethog
Blenheim Orange – blas “cneuog” nodweddiadol
Newton Wonder – asidedd siarp ond fymryn yn fwy melys na Bramley
Mae’r afalau oll yn amrywiaethau 19eg ganrif a dyfwyd yn naturiol ar goed afalau a blanwyd ar gyfer Esgobion Ty Ddewi yng ngardd furiog yr Esgob. Mae ein Pen Garddwr, Piers Lunt, yn gweithio gyda gwirfoddolwyr lleol i wneud yr ardd yn gynhyrchiol unwaith eto.
Cost
Cofiwch roi gwybod faint o boteli yr hoffech pan rydych yn archebu arlein.
Un botel – £3.60
3 potel – £10
6 potel – £20
Cyfnodau penodol rhwng 4 a 6 y.h.
Rydym yn gweithredu system archebu, felly cofiwch ddewis eich cyfnod hanner awr rhwng 4 a 6 y.h. Os oes ciw, cofiwch gadw 2 fetr rhyngddoch chi a phobl o’ch blaen neu tu ôl i chi.
ARCHEBWCH EICH LLE NAWR!
Sudd Afal Parc yr Esgob ar werth!
Posted: 27/04/2021 by Caroline Welch

Category: Newyddion Diweddaraf Tags: sydd afal