enquiries@tywigateway.org.uk Parc a Gerddi yr Esgob, Abergwili, Sir Caerfyrddin SA31 2JG

Gardd Jenkinson

 

 Mae map hanesyddol du a gwyn yn dangos ystâd fawr gydag ardaloedd wedi'u labelu ar gyfer palas, eglwys, gerddi, caeau, llwybrau, a thiroedd cyfagos. Mae llinellau manwl yn dynodi ffyrdd, coed, a nodweddion dŵr.

 

Mynedfa deilwng i Esgob

Cyn i’r Ymddiriedolaeth gymryd awenau’r safle yn 2018 man digon anystywallt oedd hwn, gyda phorfa garw’n tyfu’n wyllt, a llwyni a chwyn wedi ymledu a chuddio’r cwrt tenis o ddechrau’r 20fed ganrif islaw! Gan mai dyma’r ardal oedd yn croesawu ymwelwyr i’r safle ar gyfer yr Ymddiriedolaeth ac Amgueddfa Sir Gaerfyrddin , roedd hi’n amlwg fod angen i ni greu rhywbeth arbennig a fyddai’n creu argraff barhaol. Rhywbeth a fyddai hefyd yn adlewyrchu ein hanes a’n treftadaeth, wrth bwysleisio ein cydflaenoriaethau ar gyfer y dyfodol – cymuned, cadwraeth a chynaliadwyedd.

Ysbrydoliaeth o hanes

Dechreuodd yr Ymddiriedolaeth ar y gwaith yn 2019, ar y cyd â TACP, penseiri tirwedd o Gaerdydd, er mwyn datblygu cynllun a fyddai’n cyffroi ymwelwyr, gan eu denu o’r fynedfa hanesyddol i’r ganolfan ymwelwyr newydd yn hen adeiladau allanol y Palas. Yna, yn 2021, comisiynwyd Afan Landscapes i ddod â’r cynlluniau a’r delweddau’n fyw.

Heb unrhyw gofnodion o’r hyn a blannwyd yn wreiddiol gan yr Esgob Jenkinson, mae ein Prif Arddwr, Piers Lunt, wedi troi at amrywiaeth o ffynonellau hanesyddol (yn cynnwys An Encyclopaedia of Plants o 1843 gan John Claudius Laudon) am ysbrydoliaeth er mwyn datblygu cynllun plannu a fyddai’n gyfarwydd i’r Esgob Jenkinson a’i arddwyr.

Gardd wedi'i thirlunio gyda llwybrau graean troellog, meinciau pren, planhigion gwyrdd, blodau, a chefnogaeth planhigion pren, wedi'i hamgylchynu gan goed a gwyrddni toreithiog o dan awyr rhannol gymylog.

Yr ardd heddiw

Mae gan ardd heddiw nifer o nodweddion amlwg y gall ymwelwyr eu mwynhau, yn cynnwys clawdd ffawydd a osodwyd i gynnig golygfeydd deniadol i mewn i’r ardd ac ymlaen i’r Parc. Yng nghanol yr Ardd mae dau forder perlysiau, sy’n cynnwys cymysgedd o blanhigion ar gyfer coginio a meddyginiaeth, gan gysylltu’r cynllun â hanes garddio cegin gynaliadwy yn y Palas, wrth gynnig profiad synhwyraidd i ymwelwyr. Mae bylbiau gwanwyn amrywiol, yn cynnwys saffrwm, wedi eu plannu rhyngddyn nhw hefyd.

Mewn cylch o gwmpas yr ardd berlysiau mae pedwar border cymysg, gyda môr o flodau lluosflwydd lliwgar a rhosod treftadaeth yn eu canol, sy’n denu’r llygad.

Dewiswyd y planhigion yma’n ofalus i adlewyrchu, mor agos â phosib, y rhai a fyddai ar gael i arddwyr yr Esgob Jenkinson yn ystod y 1830.

Gardd Jenkinson drwy’r tymhorau

Yn ystod y Gwanwyn, bydd myrdd o rywogaethau o diwlipau a saffrwm yn gwthio’u pennau drwy’r pridd, gan ddod â’r Ardd yn fyw tra bod y mwyafrif o blanhigion eraill yn dal yng nghwsg. Erbyn yr haf, bydd lilïau undydd yn ffrwydro’n felyn, gan adlewyrchu lefelau uwch o heulwen wrth i’r dyddiau ymestyn. Ganol haf ac mae’r rhosod yn eu llawn dwf, gydag arogleuon y lliwiau coch tanbaid a’r magenta cyfoethog yn denu. Daw sêr Tsieina, blodau-pigwrn blewog a blodau tisian i ddisgleirio’n danllyd yn yr ardd ddiwedd yr haf yn erbyn cefndir o borfeydd addurnol ac artisiogau glôb. Yn ystod y gaeaf, mae’r clawdd ffawydd yn cynnal dail eurfrown, tra bod y pren bocs bythwyrdd yn cynnig therapi gwyrdd cyfoethog drwy’r misoedd mwyaf llwm, oer a gwlyb.

Llun agos o glwstwr o flodau melyn bach gyda gwlithod ar eu petalau, wedi'u hamgylchynu gan goesynnau gwyrdd a chefndir gwyrdd aneglur.

Ond nid ar lefel y ddaear a’r llygad yn unig y bwriedir i’r dyluniad ennyn diddordeb gydol y flwyddyn.

O edrych i fyny fe welwch ddau bergola’n gyforiog o rosod a barf-yr-hen-ŵr, gyda physt rhwyllwaith yn arwain allan ohonyn nhw ac arnyn nhw goed afal a gellyg a ddewiswyd ar sail eu haddasrwydd i’n hinsawdd ni, yn cynnwys amrywiaethau treftadaeth Gymreig.

Bywyd gwyllt a harddwch

Ond ni fwriadwyd yr ardd erioed i fod yn wledd i’r llygad yn unig. Un o fanteision anhysbys o ddefnyddio mathau hanesyddol o blanhigion yw’r ffaith eu bod fel arfer yn well o lawer ar gyfer bywyd gwyllt na’u cymheiriaid modern, uchelrywiog.

A chyda gwenyn yn heidio at y cloddiau derwen y ddaear a phys pêr, gloÿnnod byw yn bwydo ar dderwen fendigaid, ddail crach a blodau-pigwrn blewog, a llu o infertebratau’n cwtsho mewn coesynnau a adawyd i sefyll dros y gaeaf, mae’r bywyd gwyllt sy’n rhannu’r rhan hon o’r ardd yn rhoi gymaint o bleser i ni â’r planhigion eu hunain.

Rydyn ni’n cynyddu’r boblogaeth o flodau gwyllt cynhenid yma hefyd, gyda chylch o ddolydd wedi’u creu o’r newydd o gwmpas yr ardd wedi’u plannu â bylbiau gwanwyn cynhenid. Dewch nôl dro ar ôl tro i weld sut maen nhw’n datblygu, a gweld beth – neu pwy – fydd i’w gweld yno yn ystod y tymor tyfu.

 Llun agos o wely gardd gyda blodau gwyllt tal, tenau a phlanhigion gwyrdd yn tyfu mewn pridd, gyda llwybr carreg troellog a gwyrddni aneglur yn y cefndir.

Eiliad i ymlacio a mwynhau

Hyderwn y gallwch oedi am eiliad neu dair i ymlacio ar un o’n meinciau derw newydd yng Ngardd Jenkinson. Amsugnwch yr awyrgylch a garddwriaeth hanesyddol; mwynhewch arogleuon a harddwch y planhigion o’ch cwmpas; gwrandewch ar hymian tyner y borderi sy’n fyw gan beillwyr, yn yr ardd hon sydd wedi’i hadfer mor ofalus.

A chyn mentro ymlaen ar daith ddarganfod o gwmpas y Parc, y Coetir a’r Waun Fawr, beth am alw yn y ganolfan ymwelwyr am baned a chacen – neu rywbeth mwy efallai – a chasglu map o’r Parc i’ch helpu ar eich taith o gwmpas y safle.

Mae digon o bethau i’w gweld a’u gwneud ym Mharc yr Esgob drwy gydol y flwyddyn.