Atgofion Gwenonwy Owen
Gwenonwy Davies (Owen gynt) (1887-1981) oedd merch hynaf yr Esgob John Owen (1854-1926) ac mae dau bentwr o lyfrau ysgrifennu yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru sy’n cynnwys ei hatgofion am ei chyfnod ym Mharc yr Esgob, gardd breifat ei thad, yr Esgob Owen, ar y pryd.
Dyma rai o’i hatgofion o’r gerddi:
Roedd fy argraffiadau cyntaf o Abergwili yn fendigedig! Roedd y gerddi’n edrych fel gwlad y tylwyth teg.
Roedd yr asaleas a’r rhododendrons yn eu blodau ac roedd coeden gastan hyfryd yn llawn blodau yng nghanol y lawnt.
Gatiau mawr pren oedd yno â drws i’r ochr. Er mwyn cael mynediad i’r gerddi fel arfer byddai angen canu cloch er mwyn i geidwad y porth ddod i agor y drws i chi.
Roedd y lawnt wedi ei thorri a’r ceffyl yn gorfod gwisgo esgidiau. Mae’n rhaid bod torri’r lawntiau wedi cymryd cryn amser am eu bod nhw mor fawr, ond roedd popeth yn cael eu cadw’n dwt ac yn daclus.
Roedd yno dŷ haf braf a deildy braf iawn, wedi’i orchuddio â gwyddfid, mewn rhan arall o’r gerddi.
Thomas oedd ein prif arddwr. Roedd ganddo wallt euraidd a barf.
Roedd gennym ni dair gardd. Yr un fach ac un fawr iawn oedd wedi ei thrin yn dda, lle’r oedd y tai gwydr a gardd fawr ger yr orsaf ar gyfer tatws a rhai ffrwythau. Buom yn tyfu pinafalau am flynyddoedd nes mynd yn rhy ddrud.
Roedd gennym winwydd-dy hyfryd hefyd, wedi ei rannu’n ddau fel bod dilyniant o rawnwin. Mewn tŷ bach arall roedd tegeirianau a thipyn o friger Gwener yn tyfu ynddo. Mewn tŷ arall wedyn roedd blodau megis y camelia a choeden oren mewn cornel arall – ond roedd yr orennau’n ddigon chwerw!
Atgofion Gwenonwy Owen
Gwenonwy Davies (Owen gynt) (1887-1981) oedd merch hynaf yr Esgob John Owen (1854-1926) ac mae dau bentwr o lyfrau ysgrifennu yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru sy’n cynnwys ei hatgofion am ei chyfnod ym Mharc yr Esgob, gardd breifat ei thad, yr Esgob Owen, ar y pryd.
Dyma rai o’i hatgofion o’r gerddi: