enquiries@tywigateway.org.uk Parc a Gerddi yr Esgob, Abergwili, Sir Caerfyrddin SA31 2JG

A fedrech chi fod yn Ymddiriedolwr? Pam na wnewch chi ymuno â’n Bwrdd Ymddiriedolwyr!

Mae tŷ gwledig mawr gyda simneiau yn eistedd wrth ymyl gardd gron gyda llwybrau cerdded, wedi'i amgylchynu gan lawnt werdd, coed a bryniau tonnog o dan awyr gymylog. Mae pobl yn crwydro ac yn ymlacio yn y lleoliad heddychlon.

Cyfle Cyffrous Newydd i Ymddiriedolwr

Pwy ydym ni:

Elusen fach yw Ymddiriedolaeth Parc yr Esgob, a sefydlwyd yn 2016 i adnewyddu Parc yr Esgob, y parc a’r gerddi sy’n amgylchynu’r amgueddfa sirol yn Abergwili, ac i ddatblygu adeiladau segur hen Balas yr Esgob yn ganolfan ymwelwyr a chaffi. Agorwyd y prosiect adfywio £2.4m hwn yn swyddogol, gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chyngor Sir Gaerfyrddin ym mis Gorffennaf 2022.

Rydym yn rhoi Parc yr Esgob ar y map fel cyrchfan arbennig ar gyfer ymwelwyr i grwydro o gwmpas y gerddi sydd wedi’u tirlunio’n hardd, yr ardd furiog, y parcdir a’r golygfeydd ar draws dyffryn Tywi. Mae yna fywyd gwyllt hynod, SoDdGA* a hanes unigryw i’w fwynhau yn ogystal â buddion byd natur a bod allan yn yr awyr iach.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn ddibynnol ar godi arian drwy gyfrwng grantiau a chyfraniadau yn ogystal â’r incwm a gynhyrchir yn y parc ac ar haelioni gwirfoddolwyr a chefnogwyr i barhau â’n gwaith i’r dyfodol.

Y sgiliau a’r profiad angenrheidiol

Mae’r Ymddiriedolaeth yn cyflogi tîm bychan o staff, gyda bwrdd rheoli o hyd at 12 o bobl o’r gymuned leol (ymddiriedolwyr) yn ei redeg. Ar hyn o bryd, mae gyda ni lefydd gwag, ac rydyn ni’n chwilio am bobl â’r sgiliau a’r profiad mewn un neu fwy o’r meysydd canlynol:

profiad entrepreneuraidd, er mwyn helpu i ganfod cyfleoedd masnachu pellach, a chynyddu elw yn achos y rhai sydd eisoes ar y gweill, er mwyn i ni allu defnyddio ein holl adnoddau’n ddoeth a chryfhau ein busnes sylfaenol.

sgiliau codi arian neu brofiad o gynhyrchu incwm, er mwyn ein helpu i ddenu ffynonellau newydd o gyllid a datblygu ein cynaliadwyedd gweithredol

marchnata neu sgiliau CC, er mwyn helpu i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a chodi ein proffil ymysg cefnogwyr newydd, cyfranwyr a buddiolwyr, a phartneriaid posibl

Nid oes angen profiad blaenorol fel aelod o fwrdd/ymddiriedolwr, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob oed a chefndir. Er bod cydbwysedd da rhwng y rhywiau ar y Bwrdd ar hyn o bryd a sawl aelod dwyieithog, rydym hefyd yn awyddus i gyfoethogi a chynyddu amrywiaeth o safbwynt oed, anabledd ac ethnigrwydd.

Yr ymrwymiad

Mae ymddiriedolwyr yn gwasanaethu am 3 mlynedd i ddechrau, gan gyfarfod yn ein canolfan ymwelwyr ar gyfer cyfarfodydd o’r Bwrdd bob yn ail fis ar brynhawn Mawrth rhwng 4:00-6:00 pm. Gellir trefnu mynychu’n rhithiol os na all ymddiriedolwr ddod i’r cyfarfod ei hun. Disgwylir hefyd i ymddiriedolwyr ymrwymo i waith pwyllgor ar hap drwy un o’n 3 is-grwp – Llywodraethiant, Risg, Marchnata ac Ariannu a Chyllid. Mae rhai ymddiriedolwyr yn dewis gwirfoddoli yn yr ardd neu ganolfan ymwelwyr hefyd, er bod rhydd i bawb wneud fel y mynnant

Buddion ymddiriedolwyr

  • y cyfle i wella iechyd a lles pobl a chymunedau
  • cyfle i ddylanwadu ar brosiectau’r dyfodol a chamau datblygiad
  • cyfle i gymryd penderfyniadau strategol a datblygu sgiliau newydd
  • cyfleoedd i rwydweithio
  • hyfforddiant ar ôl penodi
  • ystyriaeth o ad-daliad rhesymol o gostau personol yn ôl yr angen.

 

Sut i gael gwybodaeth bellach

Am wybodaeth bellach am yr Ymddiriedolaeth a Pharc yr Esgob, ewch i’n gwefan.  Mae croeso i chi hefyd gysylltu â’r Cadeirydd, Betsan Caldwell, ar 07557 389452 neu ar betsan.caldwell@gmail.com am sgwrs anffurfiol yn Gymraeg neu yn Saesneg, neu i drefnu ymweliad.

Dyddiadau cau a chyfweld

I ymgeisio, anfonwch eich CV a llythyr atodol yn egluro pam fod y rôl yn apelio atoch a sut y gallai eich sgiliau a’ch profiad arbennig gyfrannu at waith y bwrdd. Caiff ceisiadau eu trin yn gyfrinachol a dylid eu hanfon dros e-bost at y Cadeirydd. Caiff ymgeiswyr ar y rhestr fer eu cyfweld maes o law.

 

*Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig