Straeon Staff – Anne May
20/10/2026
By Anne
Swyddog Ymgysylltu Gyda chefndir yn gweithio gyda phobl ifanc yn y gymuned, mae Anne yn ymwybodol o’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag ymgysylltu mewn gweithgareddau a’r bwysigrwydd o berthyn. Ar ôl gweithio i elusennau sy’n meithrin ac yn gwerthfawrogi gwirfoddoli, mae hi wedi gweld y manteision y gall gwirfoddoli eu cynnig i fywydau’r rhai sy’n …
















Dadorchuddio cynlluniau ar gyfer Parc yr Esgob a Phrosiect yr Ardd Furiog
Posted: 28/03/2024 by Admin2
Bydd yr Ymddiriedolaeth yn arddangos y cynlluniau datblygol ar gyfer adfer Gardd Furiog Parc yr Esgob dros yr wythnosau nesaf.
• O 3-21 Ebrill yn y Foyer (wrth ymyl Cegin Stacey’s Kitchen)
• O 3-10 Ebrill yn Sero (wrth ymyl marchnad dan do Caerfyrddin)
Rhowch sylwadau ar y dyluniadau sy’n cael eu harddangos a rhowch eich ymateb yn y blychau pleidleisio yno.
Gwahoddir aelodau’r cyhoedd hefyd i sesiynau galw heibio gyda’r Penseiri Jenny Hall o Crafted Space a Geraint Roberts o Geraint Roberts Associates, ynghyd â Thîm Prosiect yr Ardd Furiog ar ddydd Mawrth 9fed Ebrill o 5.30-7yp ym Mharc yr Esgob neu ddydd Mercher 10fed Ebrill o 1-4yp yn Sero neu rhwng 5.30-7yp yn y Black Ox, Abergwili. Meddai’r Rheolwr Prosiect Louise Austin: “Rydym am glywed eich barn!”
Category: Newyddion Diweddaraf, Gwasg