Amser Cwestiynau i Arddwyr Bywyd Gwyllt Llwyddiannus ym Mharc yr Esgob
20/10/2026
By Admin2
Cynhaliodd Parc yr Esgob yn Abergwili Amser Cwestiynau i Arddwyr yr Hydref, gyda ffocws arbennig ar fywyd gwyllt, ar Hydref 7fed, 6yn, yng Nghegin Stacey caffi preswyl Parc yr Esgob. Aelodau’r panel oedd Laura Moss o Ganolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru, Joseph Atkin, a oedd yn Brif Arddwr yn Aberglasney, Simon Richards sy’n Brif Arddwr …
















_prawf
Yn 2017 ymgymerodd Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed ag archwiliad yn yr Ardd Furiog, dan nawdd hael HLF ac Ymddiriedolaeth Elusennol Sabina Sutherland, a chyda chryn help gan wirfoddolwyr, yn cynnwys gwerthusiad desg a gwaith cloddio gofalus a chofnodi ar y safle. Dyma beth lwyddwyd i’w ddarganfod drwy astudio mapiau hanesyddol o’r safle.
Gallwch lawrlwytho’r adroddiad llawn (pdf) yma.
Dengys Map o’r Ystâd 1796 (Llyfrgell Genedlaethol Cymru) ardd cegin rhwng clos gwair a stablau i’r dwyrain a mynwent i’r gorllewin. Ymddengys fod yr ardd yn amgaeedig ar yr ochr ddeheuol a gorllewinol. Ni ddangosir defnydd tir ar y map.