Straeon Staff – Anne May

Swyddog Ymgysylltu

Gyda chefndir yn gweithio gyda phobl ifanc yn y gymuned, mae Anne yn ymwybodol o’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag ymgysylltu mewn gweithgareddau a’r bwysigrwydd o berthyn.

Ar ôl gweithio i elusennau sy’n meithrin ac yn gwerthfawrogi gwirfoddoli, mae hi wedi gweld y manteision y gall gwirfoddoli eu cynnig i fywydau’r rhai sy’n elwa arno a’r gwirfoddolwyr eu hunain.

Heb os nac oni bai, yr ardd furiog yw ei hoff ran o’r parc:

“Wrth i chi gamu trwy ddrws derw cadarn ni allwch osgoi cael eich swyno gan yr ardd furiog anghofiedig hon sydd wedi cael ei hesgeuluso ers cymaint o amser…..”

Fel dysgwraig Gymraeg, mae Anne yn gwerthfawrogi’r cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol yn ei rôl yn y parc. Yn 2025, cyhoeddwyd ei herthygl ‘Adfer hen ardd furiog’ yng nghychgrawn Barn gyda chyllid arbennig gan Gyngor Llyfrau Cymru ar gyfer datblygu lleisiau newydd yn y wasg gyfnodol.

Mae hi’n edrych ymlaen yn fawr at agoriad swyddogol yr ardd furiog yn 2027.