Dyfodol Disglair i 3 Hyfforddai Garddwriaethol Newydd

Mae’r ymddiriedolaeth sy’n rheoli Parc yr Esgob yn Abergwili wedi dechrau cyfnod newydd o ddatblygiad gan recriwtio 3 Hyfforddai Garddwriaethol. Mae cyllid gan Brosiect Porth Gwyrdd a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, ynghyd â chyllidwyr eraill, wedi galluogi’r tîm i ehangu drwy gynnig hyfforddiant mewn garddwriaeth dreftadaeth i arddwyr di-brofiad.

Dechreuodd yr hyfforddeion, Ebony Grey, Leo Smith a Caidin Howley, sy’n bobl ifanc o’r ardal, eu lleoliadau 26 wythnos ar Hydref 13eg. Gan weithio ochr yn ochr â thîm o wirfoddolwyr ymroddedig a than arweiniad y Prif Arddwr Blue Barnes-Thomas, bydd yr hyfforddeion yn dysgu am bob agwedd ar arddwriaeth, gyda ffocws ar blannu’r ardd furiog sydd newydd ei hadfer.

Mae’r ardd furiog, a fydd yn agor i’r cyhoedd ym mis Mai 2027, yn ardd gegin hanesyddol lle tyfwyd llysiau, ffrwythau a blodau ar gyfer byrddau Esgobion Tyddewi, sydd wedi byw ers canrifoedd yn Abergwili. “Mae’r ardd furiog yn rhan bwysig o’n treftadaeth leol, a bydd yn lleoliad perffaith ar gyfer digwyddiadau arbennig a hyfforddiant, yn ogystal â gweithgareddau cymunedol a mynediad cyhoeddus rheolaidd” eglurodd Blue, “felly rydym am wneud yn siŵr bod y plannu’n brydferth ac yn gydnaws â hanes arbennig iawn yr ardd furiog.”

Mae Ymddiriedolaeth Parc yr Esgob hefyd yn gobeithio y bydd llogi’r ardd furiog, gan gynnwys un o’r tai gwydr sydd newydd eu hadfer, ynghyd â theithiau tywys a thâl mynediad yn dod â ffynhonnell incwm newydd hyfyw i’r Ymddiriedolaeth, gan sicrhau y gall garddwyr presennol a rhai’r dyfodol barhau i ofalu am barc a gerddi gwerthfawr Abergwili.

“Mae mor ddiddorol gweld yr holl waith sy’n gysylltiedig â datblygu’r parc a’i wneud yn ddiogel ac yn hygyrch i’r cyhoedd,” meddai Leo. “Rwy’n mwynhau dysgu am arddwriaeth – yn enwedig garddio ar gyfer bywyd gwyllt – a gobeithio y bydd yn fy helpu i ddatblygu fy ngyrfa. Mae helpu gyda’r ardd furiog yn golygu ein bod ni hefyd yn chwarae rhan wrth wneud y parc a’r ymddiriedolaeth yn fwy cynaliadwy yn ariannol.”

Dywedodd Caidin “Rwy’n mwynhau cymryd rhan a dysgu mwy am Barc yr Esgob. – yn enwedig dysgu sut mae tîm mor fach yn rheoli 17 erw o ddôl, gerddi, llyn a pharcdir – ac ymwelwyr!”

Ychwanegodd Ebony “Mae’n gyffrous bod yn rhan o stori mor ddiddorol. Rwy’n credu bod hon yn ffordd wych o ddechrau fy ngyrfa. Rwy’n cael blas ar bopeth ac rwy’n edrych i ddechrau cwrs garddwriaeth proffesiynol y flwyddyn nesaf.”