enquiries@tywigateway.org.uk Parc a Gerddi yr Esgob, Abergwili, Sir Caerfyrddin SA31 2JG

Coed yn y Parc

Er bod esgobion wedi mynd a dod, mae’r coed a blannwyd ganddyn nhw’n parhau hyd heddiw. Plannwyd rhai gannoedd o flynyddoedd yn ôl.

Ym Mharc yr Esgob mae gennym nifer o enghreifftiau ardderchog o goed aeddfed. Mae’r mwyafrif yn y parcdir lle gall ymwelwyr eu mwynhau yn ystod bob tymor.

Ar ymyl Gardd Jenkinson gallwch weld ein coed pren Bocs (Buxus sempervirens) sy’n tyfu’n araf. Y rhyfeddod yw fod y llwyni addurnol gwreiddiol yma wedi cael eu plannu dros 200 mlynedd yn ôl.

Mae tri o bobl yn cerdded gyda'i gilydd drwy barc heulog, glaswelltog gyda choed ac adeilad yn y cefndir. Mae'r grŵp yn cynnwys un dyn sy'n oedolyn, un fenyw sy'n oedolyn, ac un plentyn.

Plannwyd ein coed Pisgwydd dros 300 mlynedd yn ôl yn ystod cyfnod yr Esgob Ottley, ac mae’r Planwydd Llundain (Platanus x hispanica) bendigedig o hardd, gyda’u dail mawr, fel dail masarn, a’u boncyffion brith (unrhyw beth ond plaen!) dros 150 mlwydd oed.

Daw llawer o’r coed aeddfed yn y Parc o dramor – wrth i un Esgob ar ôl y llall ddangos eu tueddiadau ffasiynol drwy blannu’r mathau diweddaraf o goed. Daw’r Pinwydd Chile (Araucaria araucana) o Dde America, a’r Gochwydden Gochddail (Metasequoia glyptostroboides) o China yw’r dalaf o’i math sy’n tyfu yn Sir Gaerfyrddin.

Mae coed fel y ffawydd mawr a’r coed derw yn y coetir a choed hynafol yn y parcdir ar y ddôl yn gartref i gannoedd o wahanol fathau o bryfed. Mae’r rhain yn helpu i fwydo’r holl adar sy’n bwy ac yn nythu yno.

Yn edrych i fyny ar foncyffion coed tal a changhennau wedi'u gorchuddio â mwsogl a dail gwyrdd, gyda golau'r haul yn hidlo trwy'r dail yn erbyn awyr las.