Straeon Gwirfoddolwyr – Huw Peregrine
26/05/2026
By Anne
“Gwirfoddolwr garddio, cofnodi natur a gwylio adar “Dechreuais gwirfoddoli ym Mharc yr Esgob ym mis Ebrill 2022. “Yr wyf fi yn byw yn y pentref cyfagos i’r Parc ac wedi cerdded yno sawl tro dros y degawdau. “Fi’ mwynhau cwrdd â fy cyd gweithwyr/gwirfoddolwyr a cydgweithio gyda nhw. Mae’r gwaith yn corfforol ac yn helpu …
















Yr ymddiriedolaeth a elwid gynt yn….
Posted: 07/04/2026 by Admin2
Bydd ymddiriedolwyr a staff Parc yr Esgob yn defnyddio’r enw “Ymddiriedolaeth Parc yr Esgob” o fis Ebrill 2026 ymlaen fel enw gweithredol cyhoeddus yr elusen, er y bydd The Tywi Gateway Trust yn parhau fel ein teitl cofrestredig cyfreithiol.
Esboniodd Betsan Caldwell, Cadeirydd y Bwrdd “Roeddem eisiau gwella adnabyddiad o enw Parc yr Esgob a’r ymddiriedolaeth sy’n gofalu amdano ymysg ymwelwyr, partneriaid ac eraill. Mae’r enw newydd yn cyd-fynd lawer gwell â’n cenhadaeth ac yn osgoi dryswch.”
Ni fydd y newid yn effeithio ar ein cyfansoddiad na gwybodaeth masnachu, ond bydd deunydd marchnata, safleoedd cyfryngau cymdeithasol a chyfeiriadau e-byst staff yn defnyddio’r enw gweithredol newydd.
Category: Newyddion Diweddaraf