Ffair Planhigion y Gwanwyn ym Mharc yr Esgob

Daeth tyfwyr a gwerthwyr planhigion o bob cwr o Orllewin Cymru i ymuno â gwirfoddolwyr a staff ym Mharc yr Esgob, Abergwili, ar gyfer Ffair Planhigion y Gwanwyn ddydd Sadwrn 9 Mai, oedd yn llwyddiannus iawn.

Roedd 12 stondin yn gwerthu amrywiaeth o gynhyrchion garddwriaethol a botanegol, o egin blanhigion llysiau i blanhigion blodeuol, ac o flodau sych i gelfi gardd wedi’u hailgylchu.

Daeth y Rock Choir i berfformio set o ganeuon roc ysbrydoledig ac adnabyddus, a hefyd Troellwyr, Gwehyddion a Lliwyddion Caerfyrddin.

Croesawodd y Prif Arddwr Blue Barnes-Thomas lwyddiant y digwyddiad codi arian hwn: “Mae Parc yr Esgob yn cael ei reoli gan ymddiriedolaeth elusennol, ac mae’n costio £300 y dydd i’w gynnal. Mae angen mawr am yr arian hwn i gynnal a chadw’r parc, i’w gadw’n ddiogel ac yn brydferth i gymuned ac ymwelwyr, ac i reoli’r cynefinoedd sy’n cynnal amrywiaeth eang o fywyd gwyllt.”

“Hoffem ddiolch i’r holl wirfoddolwyr, perfformwyr a stondinwyr a wnaeth y diwrnod yn llwyddiant mor fawr.”

Gall cefnogwyr sy’n dymuno cyfrannu at ofal parhaus Parc yr Esgob gyfrannu drwy: https://parcyresgob.org.uk/cy/support-us/donate/.