Straeon Staff – Blue Barnes-Thomas

Rôl yn y parc: Prif Arddwr

Cefndir: Dechreuodd Blue weithio fel garddwr cynorthwyol ym mis Hydref 2023, ar ôl colli ei swydd flaenorol. Yn dilyn ymadawiad y prif arddwr blaenorol, llwyddodd Blue i ymgymryd â rôl y prif arddwr. Cyn gweithio yn y parc, mae’n cyfaddef gyda chywilydd na fu erioed yn yr amgueddfa yn ystod y 18 mlynedd y mae wedi byw yn yr ardal, ond mae’n falch ei fod bellach yn gallu bod yno’n aml.

Hoff ran o’r swydd: Mae Blue yn sôn ei fod yn mwynhau’r amrywiaeth sy’n rhan o’i rôl, gan fod “amrywiaeth dda o bethau yma, fel y ddôl, y coetir, tir y parc ac wrth gwrs yr ardd.” Y prosiect y mae’n gweithio arno ar hyn o bryd yw’r darn o dir y byddant yn ei droi’n rhandiroedd; mae’n gobeithio y bydd yn fan lle gall pobl fynd i dyfu bwyd, boed hynny ar gyfer eu hunain neu ar gyfer pobl y gwyddant sydd eisiau bwyd ffres – er enghraifft, cartref gofal lleol neu ysgolion ledled Caerfyrddin. Mae hefyd yn rhoi pwyslais mawr ar y manteision o fod yn yr awyr agored ac yn falch bod y parc yn fan,  lle gall pobl ddod i leihau straen a chlirio eu meddyliau; mae’n nodi bod gweithio yn y parc wedi rhoi cyfle iddo fod yng nghanol natur, rhywbeth y mae’n ei ystyried yn rhan sylfaenol o’r hyn sy’n ei wneud yn hapus.