Gardd o Atgofion: Grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i adfer Gardd Furiog Abergwili a rhannu ei straeon cudd
30/07/2025
By Admin2
Mae gardd furiog anghofiedig yn Abergwili, a oedd unwaith wrth galon ystâd esgob, am flodeuo eto diolch i grant o £1.2 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Ond nid y brics, y tai gwydr na’r berllan hynafol yn unig sy’n cael eu hadfywio, ond atgofion y bobl a fu’n byw, gweithio a thyfu yno. …
Llwybrau ‘Actionbound’
Fel rhan o’n prosiect Treftadaeth Ddigidol 15 Munud ar ‘Atgofion o Barc Yr Esgob’, fe brynwyd ‘app’ sydd yn ein galluogi i greu llwybrau digidol o amgylch y parc, a’n cynnwys cwisiau, tasgau a chlipiau sain a ffilm sydd yn gallu cael eu cyrchu drwy côd QR neu drwy chwilio ar app Actionbound.
Mae ein ‘bound’ cyntaf yn fyw, defnyddiwch y côd QR islaw er mwyn chwarae.
Byddwn yn adio rhagor o ‘bounds’ ac fe fedrwn greu ‘bounds’ ar gyfer ysgolion, grwpiau ayb, sydd yn medru ffocysu ar agweddau penodol o’r parc.
Rydym yn gobeithio bydd y ‘bounds’ yn denu ymwelwyr ifancach a theuluoedd i’r parc i’w chwarae a byddant yn ychwanegu at eich mwynhad o’r parc.