Atgofion Parc Yr Esgob

Golygfa o'r awyr o dŷ gwledig mawr gyda simneiau lluosog, wedi'i amgylchynu gan wyrddni toreithiog, gerddi a llwybrau troellog, wedi'i osod mewn tirwedd wledig olygfaol gyda bryniau tonnog yn y cefndir. Rydym yn gweithio gyda’n gwirfoddolwyr a grwpiau o bobl ifanc i gasglu a recordio atgofion a storiâu am safle Parc Yr Esgob, Abergwili, cyn gartref i esgobion Tyddewi ar gyfer bwydo i mewn i brosiect Treftadaeth 15 Munud Digidol. Mae dros 800 mlynedd o hanes i’r safle, ond ychydig iawn sydd wedi ei gofnodi dros y degawdau ers yr 1930’au. Mae nifer fawr o ymwelwyr i’r parc yn sôn wrthym am sut y byddent yn cael dod i’r gerddi ar brynhawn dydd Sul, neu yn pysgota a sglefrio ar Bwll Yr Esgob, neu sut oedd eu modryb yn gweithio yn y Palas ayb. Mae’r prosiect yma yn gyfle i ni gasglu’r atgofion a’r storiâu pwysig yma ac i gadw cofnod ohonynt. Rydym hefyd wedi derbyn arian o gronfa Treftadaeth 15 Munud Digidol er mwyn cyflawni’r gwaith yma ac i’w ddefnyddio i fwydo i mewn i gynnwys digidol yr ymddiriedolaeth, drwy weithio gyda phobl ifanc lleol i greu ffilmiau byr a fydd yn seiliedig ar yr hanesion a’r atgofion.

Hoffwn gwhahodd unrhyw un sydd ag unrhyw gysylltiad i’r safle i ddod i gael disied a chacen gyda ni yn ein hardal caffi newydd sbon a rhannu eu hatgofion. Bydd ein gwirfoddolwyr a staff ar gael er mwyn recordio’r hanesion. 

Dyddiadau ac amseroedd y sesiynau:

02/08/22 (dydd Mercher) 2yp – 4yp

03/08/22 (dydd Iau) 10yb -12yp ac am 4.30yp-6.30yh

09/08/22 (dydd Mawrth) 11yb – 4yp

Am wybodaeth pellach, cysylltwch a Ffiona ar 07395082719 ebost: FfionaJones@tywigateway.org.uk