Swyddi Gwag – 3 x Lleoliad Hyfforddiant Garddwriaethol â Thâl
14/07/2026
By Admin2
14-16 awr yr wythnos am 16 wythnos (oriau hyblyg trwy gytundeb) £177.94-£203.36 yr wythnos Manylion: 260707.Cym.HorticulturalTraineesRD.PyE2 Anfonwch e-bost at teresawalters@tywigateway.org.uk erbyn dydd Mercher 19eg Awst, yn esbonio pam yr hoffech weithio gyda ni a sut mae eich profiad a’ch diddordebau’n cyd-fynd â’r rhinweddau a amlinellir yn y Manyleb Person, gan roi rhai enghreifftiau. Cynhelir cyfweliadau ar y 9fed …
















Bwcio Teithiau Dywysedig ar gyfer Grwpiau
Posted: 04/07/2023 by Ffiona Jones
Ydych chi’n glwb, cymdeithas neu’n fudiad yn chwilio am rywle ar gyfer eich trip haf?
Ydych chi’n drefnydd teithiau ac yn chwilio am fan i ddod a’ch cwsmeriaid?
Pam na ddewch chi i Barc Yr Esgob? Gyda’n partneriaid Cegin Stacey ag Amgueddfa Sir Gar, fedrwn ni gynnig ddigon i’w weld a gwneud ar ein safle.
Bwciwch Daith Dywysedig o’r parc a’r gerddi a dysgwch am hanes y safle a’r hyn sydd yn ei wneud yn mor arbennig. Cymerwch dro o amgylch Amgueddfa Sir Gar, sydd wedi ei leoli o fewn Hen Balas Yr Esgob, i weld eu harddangosfa ddiweddaraf a’r arteffactau sy’n rhan o stori Sir Gaerfyrddin. Bwciwch fwrdd yng Nghegin Stacey er mwyn mwyhau cinio neu de prynhawn.
Cysylltwch â ni am fwy o fanylion: enquires@tywigateway.org.uk
Category: Newyddion Diweddaraf