Straeon Gwirfoddolwyr – John Hancock
22/07/2026
By Anne
Rôl yn y parc: Derbynnydd Cefndir: Mae John wedi bod yma “ers iddo agor” ac ef oedd un o’r derbynyddion cyntaf yma. Mae’n 81 oed ac yn byw yn lleol; cyn gwirfoddoli yn y parc, gweithiodd am bum mlynedd fel derbynnydd mewn ysbyty hyd at gyfnod Covid. Mae hyn yn golygu bod John wedi bod …
















Posted: 28/03/2024 by Admin2
Dadorchuddio cynlluniau ar gyfer Parc yr Esgob a Phrosiect yr Ardd Furiog
Bydd yr Ymddiriedolaeth yn arddangos y cynlluniau datblygol ar gyfer adfer Gardd Furiog Parc yr Esgob dros yr wythnosau nesaf. • O 3-21 Ebrill yn y Foyer (wrth ymyl Cegin Stacey’s Kitchen) • O 3-10 Ebrill yn Sero (wrth ymyl marchnad dan do Caerfyrddin) Rhowch sylwadau ar y dyluniadau sy’n cael eu harddangos a rhowch …
Posted: 20/03/2024 by Ffiona Jones
Croeso Cymru Sicrwydd Ansawdd
Yn dilyn ymweliad diweddar gan Gynllun Ansawdd Atyniad i Ymwelwyr Croeso Cymru, rydym wrth ein bodd i gyhoeddi ein bod wedi derbyn achrediad ganddynt. Mae hyn yn sicrhau bydd eich ymweliad i’n safle o safon ac yn ateb gofynion Croeso Cymru. Yng nghyd a’n Gwobr Y Faner Werdd a’n Gwobr Treftadaeth Werdd, mae’r wobr yma …
Posted: 09/02/2024 by Ffiona Jones
Swyddi Gwag
Does ddim swyddi ar gael ar hyn o bryd
Posted: 31/01/2024 by Ffiona Jones
Cymwysterau Achrededig am ddim i Wirfoddolwyr Garddio
Rydym nawr yn cofrestru gwirfoddolwyr ar gyfer ein sesiynau hyfforddiant Agored Cymru, sydd am ddim. Os ydych rhwng 16 a 55 mlwydd oed ac yn byw yn Sir Gaerfyrddin, cysylltwch a FfionaJones@tywigateway.org.uk Ffôn: 07395082719
Posted: 31/01/2024 by Ffiona Jones
Ffair Blanhigion Y Gwanwyn – Dydd Sul 21ain Ebrill 2024
Mae ymholiadau stondinwyr ar gyfer ein Ffair Blanhigion nawr ar agor. Cysylltwch â FfionaJones@tywigateway.org.uk Ffôn: 07395082179 am fwy o fanylion.
Posted: 14/12/2023 by Admin2
Dweud eich dweud am gyfrinach fawr Parc yr Esgob!
Mae eich barn yn bwysig i ni am ddyfodol Gardd Furiog, Parc yr Esgob. Flynyddoedd maith yn ôl, yr ardd furiog hanner erw, wedi’i chuddio ar ochr orllewinol Y Parc oedd yn lle canolog iawn i Balas yr Esgob. Yn dyddio nôl i 1790 o leiaf, ac unwaith yn galon i’r ystad, roedd yr ardd …
Posted: 17/11/2023 by Ffiona Jones
Gwobr Y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol 2023
Rydym wrth ein bodd i gyhoeddu bod ein gwirfoddolwyr arbenning yma ym Mharc Yr Esgob wedi ennill ‘Gwobr Y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol 2023! Mae’r wobr, sydd yn gyfwerth a ‘MBE’, yn adnabod rhagoriaeth mewn gwirfoddoli ar draws yr DU, ac yn destament i waith caled ac ymroddiad ein gwirfoddolwyr dros nifer o flynyddoedd, a …
Posted: 04/07/2023 by Ffiona Jones
Bwcio Teithiau Dywysedig ar gyfer Grwpiau
Ydych chi’n glwb, cymdeithas neu’n fudiad yn chwilio am rywle ar gyfer eich trip haf? Ydych chi’n drefnydd teithiau ac yn chwilio am fan i ddod a’ch cwsmeriaid? Pam na ddewch chi i Barc Yr Esgob? Gyda’n partneriaid Cegin Stacey ag Amgueddfa Sir Gar, fedrwn ni gynnig ddigon i’w weld a gwneud ar ein safle. …
Posted: 04/07/2023 by Ffiona Jones
Mynediad i’r Ardd Furiog
Nid yw’r Ardd Furiog ar agor i’r cyhoedd ar hyn o bryd am resymau iechyd a diogelwch. Er hynny, mae’n cael ei ddefnyddio’n ddyddiol gan ein garddwyr a gwirfoddolwyr garddwriaethol er mwyn tyfu cynnyrch i ‘Cegin Stacey’s Kitchen’. Rydym yn cynnwys mynediad i’r Ardd Furiog yn ystod ein Teithiau Tywys rheolaidd ac yn ystod digwyddiadau …
Posted: 15/05/2023 by Ffiona Jones
App Actionbound
Fel rhan o’n prosiect Treftadaeth 15 Munud Digidol, rydym wedi creu llwybr digidol llawn tasgau, cwisiau a gwybodaeth a fydd yn cyfoethogi unrhyw ymweliad i’r parc. Mae’r llwybr i gael ar app ‘Actionbound’ ac y mae’n addas ar gyfer unrhyw oed. https://actionbound.com/bound/history-of-parc-yr-esgob Mi fydd fersiwn Gymraeg ar gael yn fuan.