enquiries@tywigateway.org.uk Parc a Gerddi yr Esgob, Abergwili, Sir Caerfyrddin SA31 2JG

Ynghylch y Ymddiriedolaeth

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn fel Sefydliad Corfforedig Elusennol (rhif elusen 1167244) yn 2016 er mwyn:

“hyrwyddo cadwraeth, diogelwch, gwelliant a dealltwriaeth o’r amgylchedd adeiledig a naturiol er budd y cyhoedd ym Mharc yr Esgob a’i leoliad diwylliannol yn Abergwili.”

Ar gychwyn cyntaf cynllun Parc Yr Esgob, prosiect i adfer Parc yr Esgob gyda chefnogaeth o £2filiwn o Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, sefydlodd Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru yr Ymddiriedolaeth i gyflawni’r prosiect adfer ac ymgymryd â rheoli a gwneud gwaith cynnal a chadw yn y parc.

Yn 2018, arwyddodd yr Ymddiriedolaeth  brydlesi 30 mlynedd gyda Chyngor Sir Caerfyrddin a Chorff  Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru ar gyfer gerddi Hen Balas yr Esgob, yr Ardd Furiog a’r Waun Fawr. Rydyn ni’n gyfrifol am sicrhau eu bod yn dal i dderbyn gofal ac yn hygyrch i’r gymuned leol.

Caiff yr Ymddiriedolaeth ei gweinyddu gan fwrdd o 12 Ymddiriedolwr cymunedol lleol. Dyma ein huchelgais hir dymor ar gyfer y safle:

Rhoi Parc yr Esgob ar y map fel cyrchfan ardderchog i ymwelwyr allu crwydro drwy erddi wedi’u tirlunio a thiroedd ysblennydd gyda golygfeydd dros Ddyffryn Tywi, darganfod bywyd gwyllt a hanes hynod ddiddorol, a mwynhau manteision bod allan ynghanol byd natur.

Ar hyn o bryd, mae yna wyth aelod o staff:-

  • Cyfarwyddwr Datblygu – [swydd wag]
  • Arweinydd Gweithredol a Rheolwr Prosiect (Dros Dro) – Sarah Dobson
  • Prif Arddwr – Blue Barnes-Thomas
  • Rheolwraig Prosiect Yr Ardd Furiog (Gwaith Cyfalaf)  – Louise Austin
  • Rheolwraig Prosiect Yr Ardd Furiog (Ymgysylltu)  – Teresa Walters
  • Swyddog Ymgysylltu, Prosiect Yr Ardd Furiog – Anne May
  • Garddwraig Cynorthwyol – Yvonne Lee
  • Swyddog Addysg – Gemma Edwards

Mae’r ymddiriedolaeth, sy’n elusen,  yn gwbl annibynnol ar lywodraeth ganolog a lleol ac nid yw’n derbyn unrhyw nawdd uniongyrchol. Rydyn ni’n dibynnu ar godi arian drwy grantiau a chyfraniadau ochr yn ochr ag incwm a gynhyrchwyd drwy’r parc ac ar garedigrwydd gwirfoddolwyr a chefnogwyr er mwyn gallu parhau â’n gwaith.

Allwch chi helpu i’n cefnogi?