Gall ymgysylltu pobl ifanc â threftadaeth fod yn anodd, felly roeddem wrth ein bodd yn croesawu Rosie am 4 diwrnod o brofiad gwaith ym mis Chwefror 2026.
Dyma Flog Rosie:
Diwrnod 1
Dechreuodd gwibdaith o gwmpas y parc yng Ngardd Jenkinson, o flaen Amgueddfa Sir Gâr. Dysgais i fod planhigion a pherlysiau llesol yn arfer cael eu tyfu yng ngardd Palas yr Esgob. Mae nifer fawr o goed hardd yn tyfu’n uchel iawn yn y goedwig gan gynnwys coed ffawydd enfawr a sequoias. Ro’n i wrth fy modd i weld y ddôl a’r llyn. Llyn ‘oxbow’ yw e, rhywbeth y dysgais amdano yn yr ysgol ond erioed wedi ei weld tan imi ddod yma. Gwelais i gynefin y dwrgi hefyd!
Treuliais i amser yn y twnnel tyfu yn plannu ‘toriadau’ o blanhigion sy’n tyfu yn y parc – mae’n braf meddwl bydd rhai o’r planhigion hyn yn ffynnu yn sgil fy ngwaith.

Diwrnod 2
Es i am dro bach yn gyntaf. Tynnais i luniau o ffwng o gwmpas y parc
Cwrddais â’r tîm gwirfoddoli – roedd pawb mor groesawgar. Mewn grwpiau, plannon ni flodau gwyllt er mwyn creu lawnt fwy amrywiol. Teimlais fod gweithio mewn tîm yn golygu eich bod chi’n dysgu wrth wylio pobl eraill – dysgais i enwi sbesimen madarch: Cynffon Twrci
Cawson ni ginio (gan gynnwys cacen!), wedyn cadw’n brysur yn plannu blodau gwyllt , chwynnu rhai gwelyau blodau a chloddio rhai twmpathau gwahaddod, gan ddarganfod, er ei bod hi’n oer y tu allan, fy mod i’n cadw’n gynnes trwy weithio.
Gorffennais y diwrnod yn pecynnu hadau fel y rhai sydd ar werth yn y siop – ces i fy synnu i weld ba mor wahanol yw hadau, mae hadau blodau cawl yn edrych fel tentaclau octopws!
Diwrnod 3
Dechreuais i blannu hadau – rhywbeth ro’n i wir yn mwynhau dysgu ei wneud yn enwedig wrth ystyried dod yn ôl yn yr haf er mwyn gweld y planhigion yn tyfu.
Am y rhan fwyaf o’r dydd, roeddwn i’n brysur iawn yn tynnu lluniau o bethau diddorol. Mae cymaint mwy i’w weld yn y gaeaf nag oeddwn i’n ei ddisgwyl!
Treuliais i amser cinio gyda grŵp o wirfoddolwyr gwahanol. Roedd yn braf cwrdd â phobl newydd.
Rhoddais hadau amrywiol mewn pacedi yn barod i’w gwerthu.
Mynychais gyfarfod yn trafod beth sy’n mynd ymlaen yn y parc. Mae prosiect yr Ardd Furiog yn swnio’n ddiddorol iawn. Roedd yn fy helpu i i ddeall pa mor fawr yw’r cyfrifoldebau o ran rheoli’r parc.

Diwrnod 4 – Y diwrnod olaf
Gydag offer garddio, torron ni lawrwydd o lannau’r llyn ‘oxbow’ lan i’r goedwig, ac yn sgil hynny, ces i olygfa braf o’r llyn. Cefais i hwyl yn symud lan lethrau serth gan ddefnyddio fy nwylo a fy nhraed.
Helpais i ddadlwytho coed a fydd yn cael eu plannu yn y goedwig ac ar lannau’r afon – ro’n i’n gallu gwahaniaethu rhwng sawl math gan gynnwys fy hoff goeden – y ddraenen wen.
Ar ôl i mi orffen torri’r lawrwydd cawson ni ginio yng nghaffi Stacey (Bwyd ffein!)
Wedyn, es i am daith o gwmpas arddangosfa Eifftaidd yr amgueddfa – ro’n i wrth fy modd! Tynnais I lwyth o luniau a dw i’n edrych ymlaen at fwrw golwg drostyn nhw nes ymlaen.
Cyn i mi orffen fy mhrofiad gwirfoddoli, ail-lenwais y planhigion oedd ar werth yn y dderbynfa.

Ro’n i ar ben fy nigon yn gwirfoddoli ym Mharc yr Esgob. Ac mae’n teimlo fel fy mod i wedi dysgu cymaint wrth ei wneud. Yn sgil fy ymdrechion, gobeithio bod dealltwriaeth well ‘da fi am sut i gynnal a chadw’r parc. Y peth pwysicaf a ddysgais oedd beth bynnag yw eich diddordebau, bydd rhywbeth ar gael i bawb ei drafod neu rywbeth newydd i’w ddysgu.
Diolch am roi’r cyfle i mi!
Wythnos Rosie mewn Lluniau – Chwefror 2026
Posted: 01/04/2026 by Admin2

Category: Newyddion Diweddaraf