GQT gyda ffocws ar fywyd gwyllt
30/09/2026
By Admin2
Mae Parc yr Esgob yn Abergwili, yn cynnal Amser Cwestiynau i Arddwyr yr Hydref, gyda ffocws arbennig ar fywyd gwyllt, ar Hydref 7fed, 6pm, yng Nghegin Stacey, Parc yr Esgob. Bydd y gynulleidfa’n gallu gofyn eu cwestiynau am sut i arddio’n wych mewn ffordd sy’n annog peillwyr, yn creu mosaig o gynefinoedd ac sy’n garedig …
















Diogelwch yn y Parc
Posted: 27/05/2021 by Caroline Welch
Gwybodaeth i
Rieni a Gwarcheidwaid
Mae’r Parc yn lle bendigedig i chwarae a fforio, ond mae ynddo lwybrau cul ac anwastad, peryglon baglu megis gwreiddiau coed a mannau serth yn ogystal â phwll eitha mawr tu ôl i ffens. Mae’r ha-ha (ffos hir a dwfn) yn rhedeg ar hyd ymyl y Parc i’w wahanu oddi wrth y Waun Fawr; nid yw wedi ei ffensio a mae dŵr llonydd ynddo. Gofalwch felly fod eich plant dan oruchwyliaeth drwy gydol eu hymweliad a’r Parc.
Mae’n siwr eich bod hefyd wedi sylwi ar yr holl blannu newydd yn y Parc. Er mwyn gwarchod fflora llawr, a sicrhau y gall planhigion newydd a bywyd gwyllt ffynnu yma, mae’n bwysig fod ymwelyr a phlant yn cadw at y llwybrau a gochel rhag pigo neu ddifrodi planhigion byw.
Darganfod beth sydd ymlaen
Category: Newyddion Diweddaraf