GQT gyda ffocws ar fywyd gwyllt
30/09/2026
By Admin2
Mae Parc yr Esgob yn Abergwili, yn cynnal Amser Cwestiynau i Arddwyr yr Hydref, gyda ffocws arbennig ar fywyd gwyllt, ar Hydref 7fed, 6pm, yng Nghegin Stacey, Parc yr Esgob. Bydd y gynulleidfa’n gallu gofyn eu cwestiynau am sut i arddio’n wych mewn ffordd sy’n annog peillwyr, yn creu mosaig o gynefinoedd ac sy’n garedig …
















Straeon Gwirfoddolwyr – John Hancock
Posted: 22/07/2026 by Anne
Rôl yn y parc: Derbynnydd
Cefndir: Mae John wedi bod yma “ers iddo agor” ac ef oedd un o’r derbynyddion cyntaf yma. Mae’n 81 oed ac yn byw yn lleol; cyn gwirfoddoli yn y parc, gweithiodd am bum mlynedd fel derbynnydd mewn ysbyty hyd at gyfnod Covid. Mae hyn yn golygu bod John wedi bod yn gwirfoddoli ers tua 9 mlynedd ar y cyfan. Dywed: “Mae’n braf cael gwahanol rolau; mae’n eich cael chi allan o’r tŷ ac yn eich galluogi i gwrdd â phobl, ac rwy’n dwlu ar gwrdd â phobl.”
Hoff ran o’r swydd: Mae John yn mwynhau hyblygrwydd ei rôl yn y parc, yn ogystal â gwybod ei fod yn cyfrannu rhywbeth at y gymuned.
Category: Newyddion Diweddaraf