Parc Yr Esgob i groesawu Cymru v Iwerddon – Dathliad Pen-blwydd Brwydr Abergwili 1022!
Bydd Cymru yn herio Iwerddon mewn cyfarfod cyffroes i nodi Milflwyddiant ‘Brwydr Abergwili’ ym Mharc Yr Esgob, Abergwili ar ddydd Sadwrn 13eg Awst. Historia Normannis (grŵp ail-greu Canol Oesol) bydd yn ail-greu’r frwydr rhwng byddinoedd Llewelyn ap Seisyll a Rhain Y Gwyddel ac y bydd yn cael ei gynnal gan Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn, gyda chymorth cymuned Abergwili.
Yn 1022, yn dilyn marwolaeth Maredudd ap Owain, fe wnaeth ei fab honedig, Rhain Y Gwyddel, geisio cipio teyrnas y Deheubarth i’w hun. Ond, roedd gan ŵr ei hanner chwaer, Angharad, sef tywysog Gwynedd, Llywelyn ap Seisyll gynlluniau ei hun am reolaeth y deyrnas, ac fe ddaeth a byddin ei hun i lawr i gwrdd â byddin Rhain ac fe fu brwydro tanbaid rhwng y ddwy fyddin lle mae’r afon Gwili yn cyd-lifo a’r afon Tywi.
Mae Parc Yr Esgob, gydag Amgueddfa Sir Gar yn ganolog iddo, sy ond ychydig o gannoedd o fetrau o’r maes y gad gwreiddiol, yw’r lle delfrydol i nodi’r digwyddiad pwysig yma yn hanes Abergwili, Sir Gaerfyrddin ac yn wir, Cymru. Wedi ei gefnogi gan grant sylweddol oddi wrth Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cyngor Sir Gar a chyllidwyr eraill, mae cam cyntaf y gwaith i adfer y parc bron wedi ei gwblhau.
Bydd y ‘frwydr’ yn cymryd lle ar gae Y Waun Fawr, gyda ‘llys Canoloesol’ ar lawnt y parc, yng nghyd a hanes byw i chi fedru archwilio ac i ddod i wybod mwy am fywyd yng Nghymru 1000 o flynyddoedd yn ôl. Fydd yna arddangosfeydd o grefftau traddodiadol a chyfle i brynu cynnyrch lleol. Mae ysgolion cynradd lleol wedi cael ei gwahodd i gymryd rhan mewn cystadleuaeth i greu baner ‘Canoloesol’ a fydd yn cynrychioli eu hysgol, a bydd yn cael ei arddangos ar furiau’r parc yn ystod y diwrnod.
Mae Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn, gan gynnwys eu gwirfoddolwyr ymchwil hanesyddol, wrthi yn casglu gwybodaeth, noddwyr a hysbysebwyr lleol ar gyfer llyfryn coffaol a fydd ar gael i’w brynnu ar y dydd er mwyn cefnogi rheolaeth a chynnal a chadw parhaus Parc Yr Esgob. Os hoffech wybod mwy, ewch i www.parcyresgob.org.uk neu cysylltwch â FfionaJones@tywigateway.org.uk
Nodiadau golygyddion am Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn
Elusen fechan iawn yw Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn, sy’n gyfrifol am adfer a rheolaeth tir Hen Balas Esgobion Tyddewi, Abergwili (sydd nawr yn gartref i Amgueddfa Sir Gar). Derbyniwyd grant o £1.3m gan yr Ymddiriedolaeth o Gronfa Treftadaeth Y Loteri Genedlaethol, yng nghyd a grantiau eraill ar gyfer cam cyntaf y gwaith i adfer y safle oddi wrth arianwyr eraill, yn cynnwys Cyngor Sir Gar a Llywodraeth Cymru. Mae’r gwaith cyfalaf bron wedi eu cwblhau ac yr ydym yn edrych ‘mlaen i agor ein cyfleusterau dan do yn fuan. Rydym yn ddibynnol ar dîm o wirfoddolwyr gweithgar i helpu’r 4 aelod staff a’r bwrdd o ymddiriedolwyr lleol i redeg a chynnal y safle 6ha.
Dathliad Milflwyddiant Brwydr Abergwili 1022!
Posted: 24/06/2022 by Louise Austin

I gael gwybod mwy am waith yr Ymddiriedolaeth, ewch i: https://parcyresgob.org.uk/cy/
I roi yn fisol i’r Ymddiriedolaeth, ewch i: https://localgiving.org/charity/the-tywi-gateway-trust/
Dilynwch @parcyresgob ar Facebook – Twitter – Instagram – YouTube
Cysylltu:
Am wybodaeth pellach, delweddau a chyfweliadau, cysylltwch â Ffiona Jones yn Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn FfionaJones@tywigateway.org.uk
Category: Gwasg